
2014 Rhif 1370 (Cy. 139)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014
Gwnaed 23 Mai 2014
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 54A(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 .

Yn unol ag adran 143(3C) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014 a daw i rym 14 o ddiwrnodau wedi’r dyddiad y’i gwneir.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Gohirio gwneud rhestrau ardrethu: dyddiad penodedig
2 
At ddibenion adran 54A (gohirio gwneud rhestrau Cymreig ar gyfer 2015 ymlaen) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, y dyddiad penodedig yw 1 Ebrill 2017 .
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
23 Mai 2014