
2014 Rhif 129 (Cy. 17)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2014
Gwnaed 22 Ionawr 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Ionawr 2014
Yn dod i rym 14 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1(1), 2(2), 2(4)(a) a (j), 4, 5 ac 8 i 10 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Chwefror 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2 Diwygiadau
Diwygio Rheoliadau
2 
Diwygir Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 yn unol â rheoliadau 3 i 9.
3 
Yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli)—
(a) yn is-baragraff (a) o’r diffiniad o “discount” yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”;
(b) yn is-baragraff (a) o’r ddiffiniad o “exempt dwelling” yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”.
4 
Ym mharagraff (3) o reoliad 9 (rhagdybiaethau ynghylch anheddau)—
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) paragraph 116(2)(c) of the scheme prescribed in the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013”;
(b) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) a provision contained in an authority’s scheme by virtue of regulation 34(3) of, and paragraph 10(2)(c) of Schedule 13 to, the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013,”.
5 
Yn rheoliad 10 (hysbysiad o ragdybiaeth)—
(a) ym mharagraff (6A), yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”;
(b) ym mharagraff (6A) yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder—“
(i) informing the person affected of the duty imposed by paragraph 113(1) of the scheme prescribed by the Schedule to the Council Tax Reductions Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013 or contained in the authority’s scheme by virtue of paragraph 7(1) of Schedule 13 to the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013, as the case may be;”
6 
Ym mharagraff (1A) o reoliad 11 (cywiro rhagdybiaethau) yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”.
7 
Ym mharagraff (3) o reoliad 15 (rhagdybiaethau ynghylch disgownt)—
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) paragraph 116(2)(c) of the scheme prescribed in the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013”;
(b) Yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) a provision contained in the authority’s scheme by virtue of regulation 34(3) of, and paragraph 10(2)(c) of Schedule 13 to, the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013,”.
8 
Ym mharagraff (1A) o reoliad 16 (cywiro rhagdybiaethau ynghylch disgownt) yn lle “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012” rhodder “Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013”.
9 
Ym mharagraff (2A) o reoliad 20 (hysbysiadau galw am dalu: taliadau sy’n ofynnol)—
(a) yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) paragraph 116(2)(c) of the scheme prescribed in the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulation 2013;”;
(b) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) a provision contained in an authority’s scheme by virtue of regulation 34(3) of, and paragraph 10(2)(c) of Schedule 13 to, the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013,”.
RHAN 3 Arbedion
Dehongli
10 
Yn y Rhan hon o’r Rheoliadau—
 ystyr “cynllun 2013” (“2013 scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau 2012 neu sy’n gymwys yn ddiofyn ar 1 Ebrill 2013 yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
 ystyr “Rheoliadau 1992” (“1992 Regulations”) yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992;
 ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012.
Darpariaeth Arbed
11 
Nid yw’r diwygiadau a wneir i Reoliadau 1992 gan reoliadau 3 i 9 yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw geisiadau a wneir neu ostyngiadau a ddyfernir yn unol â darpariaethau cynllun 2013.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth , un o Weinidogion Cymru
22 Ionawr 2014