
2014 Rhif 1249 (Cy. 130)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014
Gwnaed 12 Mai 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 15 Mai 2014
Yn dod i rym 15 Gorffennaf 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 32A a 210 o Ddeddf Addysg 2002, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 15 Gorffennaf 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “hysbysiad cyflawn” (“complete notice”) yw hysbysiad sy’n nodi’r holl ddyddiadau tymhorau y penderfynwyd arnynt ar gyfer pob ysgol yn ei ardal ac a anfonwyd at Weinidogion Cymru gan awdurdod lleol yn unol â’i ddyletswydd yn adran 32A(5) o Ddeddf 2002;
 ystyr “hysbysiad rhannol” (“partial notice”) yw hysbysiad sy’n nodi’r dyddiadau tymhorau y penderfynwyd arnynt ar gyfer rhai ysgolion yn ei ardal ond nid pob un ohonynt ac a anfonwyd at Weinidogion Cymru gan awdurdod lleol yn unol â’i ddyletswydd yn adran 32A(5) o Ddeddf 2002.
Ffurf a chynnwys yr hysbysiadau
3 

(1) Rhaid i bob hysbysiad cyflawn a phob hysbysiad rhannol gynnwys yr wybodaeth a rhaid iddynt fod ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen.
(2) Caiff hysbysiad cyflawn neu hysbysiad rhannol gael ei gwblhau a’i anfon yn electronig.
Y cyfnod y mae rhaid rhoi hysbysiad ynddo
4 
Rhaid i awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru am yr holl ddyddiadau tymhorau y penderfynwyd arnynt ar gyfer yr ysgolion a gynhelir yn ei ardal heb fod yn hwyrach na’r diwrnod gwaith olaf ym mis Awst yn y flwyddyn sydd ddwy flynedd yn union cyn dechrau’r flwyddyn ysgol gyntaf y penderfynwyd ar y dyddiadau tymhorau ar ei chyfer.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
12 Mai 2014
YR ATODLEN
Ffurf yr hysbysiad
Rheoliad 3
