
2014 No. 124 (Cy. 14)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014
Gwnaed 22 Ionawr 2014
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Trysorlys gan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddo, yn unol â pharagraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y lluosydd ardrethu annomestig
2 
At ddibenion paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2014, pennir mai 249 yw B.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
22 Ionawr 2014