
2014 Rhif 123 (Cy. 13)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 22 Ionawr 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Ionawr 2014
Yn dod i rym 28 Chwefror 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adrannau 16(1)(e), 17(1) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Chwefror 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007
2 

(1) Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” rhodder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2013/46/EU;”.
(3) Yn rheoliad 8(2) (meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla fabanod), ar ôl y geiriau “proteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu’r proteinau llaeth geifr”.
(4) Yn lle rheoliad 9 (meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla ddilynol) rhodder y rheoliad a ganlyn—“
Meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla ddilynol
9. 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i fformiwla ddilynol gydymffurfio â’r meini prawf cyfansoddiadol a osodir yn Atodiad II gan gymryd ystyriaeth o’r manylebau yn Atodiad V.
(2) Yn achos fformiwla ddilynol sydd wedi’i gweithgynhyrchu o’r hydrolysatau protein hynny a bennir ym mhwynt 2.2 o Atodiad II â’u cynnwys protein rhwng y lleiafswm a 0.56g/100kJ (2.25g/100kcal)—
(a) rhaid i addasrwydd y fformiwla ddilynol i fodloni gofynion maethol babanod normal iach ar y cyd â bwydo ategol gael ei ddangos drwy astudiaethau priodol a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol sy’n dderbyniol yn gyffredinol ar lunio a chynnal astudiaethau o’r fath; a
(b) rhaid i’r fformiwla ddilynol fod yn unol â’r manylebau priodol a osodir yn Atodiad VI.”
(5) Yn rheoliad 15 (enwi fformiwla fabanod) yn y ddau baragraff, ar ôl “broteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu broteinau llaeth geifr”.
(6) Yn rheoliad 16 (enwi fformiwla ddilynol) yn y ddau baragraff, ar ôl “broteinau llaeth gwartheg” mewnosoder “neu broteinau llaeth geifr”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
22 Ionawr 2014