
2014 Rhif 1212 (Cy. 128)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014
Gwnaed 8 Mai 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Mai 2014
Yn dod i rym 1 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 i’r Ddeddf honno, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 77(2) a (9), 80(4), 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(1) ac (8), 39(2)(a), 42(2)(a), 50(4) ac (8), 55(4), 56(3), 57(9) a (10) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005 a pharagraff 6(b) o Atodlen 4 a pharagraffau 2(1) a 3(1) o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Medi 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999
2 
Yn Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999 yn rheoliad 4, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—“
(b) in all other cases at least once within a six year period beginning on 1 September 2014 and ending on 31 August 2020 and at least once within every subsequent six year period beginning on the expiry of the previous six year period.”.
Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
3 

(1) Mae Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—“
(b) ym mhob achos arall o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.”.
(3) Yn rheoliad 4 yn lle “50” rhodder “20”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006
4 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6, yn lle paragraff (1)(b), rhodder—“
(b) ym mhob achos arall o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.”.
(3) Ym mharagraff (c) o reoliad 8 hepgorer “o leiaf dair wythnos ymlaen llaw”.
(4) Ym mharagraff (1) o reoliad 10 yn lle “ddeugain a phump” rhodder “20”.
(5) Yn lle rheoliad 14 rhodder—“
Cyfnodau rhwng arolygiadau
14 
Pan fo’n ofynnol gan adran 50(1) i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sicrhau bod addysg enwadol a roddir i unrhyw ddisgybl a chynnwys addoli ar y cyd yn yr ysgol yn cael eu harolygu, rhaid iddo sicrhau bod yr arolygiad yn cael ei gynnal—
(a) yn achos ysgol nad oedd wedi’i harolygu o’r blaen, o fewn chwe blynedd i’r dyddiad y derbyniwyd disgyblion gyntaf i’r ysgol; a
(b) ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.”.
(6) Ym mharagraff (4) o reoliad 16 yn lle “ddeugain a phump” rhodder “20”.
Diwygio Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006
5 

(1) Mae Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 yn lle paragraff (1), rhodder—“
(1) Ac eithrio pan fo rheoliad 3 yn gymwys, rhaid i’r Prif Arolygydd arolygu pob darparydd gwasanaeth o dan adran 55 o Ddeddf 2005 a phob darparydd perthnasol o dan adran 56 o Ddeddf 2005 o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.”.
(3) Yn rheoliad 7, yn lle “hanner cant” rhodder “20”.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
8 Mai 2014