
2014 Rhif 1186 (Cy. 115)
Iechyd Planhigion, Cymru
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2014
Gwnaed 6 Mai 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Mai 2014
Yn dod i rym 31 Mai 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Mai 2014.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006
2 
Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
Erthygl 19 (gwahardd glanio plâu planhigion a deunydd perthnasol)
3 

(1) Yn lle paragraff (6) o erthygl 19, rhodder—“
(6) Paragraph (7) applies to—
(a) plants of Castanea Mill., Fraxinus L., Pinus L., Platanus L., Quercus L. or Ulmus L. intended for planting, which have been grown or are suspected to have been grown in another member State; or
(b) plants of Castanea Mill., Pinus L., Platanus L., Quercus L. or Ulmus L. intended for planting, which have been grown or are suspected to have been grown in Switzerland and to which the requirements of article 6 do not apply.”.
(2) Yn lle paragraff (8) o erthygl 19, rhodder—“
(8) The matters are—
(a) the intended date of introduction of the plants;
(b) their intended destination;
(c) the quantity of the plants;
(d) their genus and species;
(e) the producer’s identification number; and
(f) the country from which they have been, or are to be, consigned.”.
Diabrotica virgifera virgifera Le Conte
4 

(1) Hepgorer Rhan 7A (parthau rheoli at ddibenion iechyd planhigion).
(2) Yn Rhan B (plâu planhigion y gwyddys eu bod yn digwydd yn yr Undeb Ewropeaidd) o Atodlen 1, hepgorer eitem 1a o dan y pennawd “Insects, mites and nematodes”.
Alun Davies
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
6 Mai 2014