
2014 Rhif 1133 (Cy. 112)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Addysg (Ysgolion Bach) (Cymru) 2014
Gwnaed 29 Ebrill 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Ebrill 2014
Yn dod i rym 22 Mai 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt yn adran 15 a 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ysgolion Bach) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 22 Mai 2014.
Dull adnabod ysgolion bach a gynhelir yng Nghymru
2 

(1) Mae’r erthygl hon yn diffinio ysgol fach a gynhelir yng Nghymru at ddibenion Pennod 1 o Ran 2 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”).
(2) Ysgol fach a gynhelir yw ysgol sydd â llai na 91 o ddisgyblion cofrestredig ar y trydydd dydd Mawrth yn y mis Ionawr yn union cyn y dyddiad y gwneir y cynnig o dan adran 11 o Fesur 2011.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
29 Ebrill 2014