
2014 Rhif 11 (Cy. 1) (C. 1)
Cartrefi Symudol, Cymru
Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2014
Gwnaed 6 Ionawr 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 58(3)(b), 63(1), 63(9), 64(2) a (3) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2014.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol 1983;
 ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013; a
 mae i “tribiwnlys” (“tribunal”) yr ystyr a roddir yn adran 55(1) o Ddeddf 2013.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 7 Ionawr 2014
2 
At ddibenion gwneud rheoliadau, y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Rhan 4 o Ddeddf 2013, ac Atodlen 2 iddi, ddod i rym yw 7 Ionawr 2014—
(a) adran 52 (rheolau safle);
(b) ym Mhennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 (cytundebau cartrefi symudol)—
(i) paragraffau 9 i 13 (gwerthu cartref symudol a rhoi cartref symudol yn anrheg); a
(ii) paragraff 23 (dogfen mewn perthynas â chynyddu’r ffi am y llain).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Hydref 2014
3 

(1) Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf 2013 ddod i rym yw 1 Hydref 2014—
(a) Rhan 1 o Ddeddf 2013 (cyflwyniad), ac Atodlen 1 iddi;
(b) Rhan 2 o Ddeddf 2013 (trwyddedu safleoedd cartrefi symudol, etc.);
(c) Rhan 3 o Ddeddf 2013 (amddiffyn rhag troi allan);
(d) Rhan 4 o Ddeddf 2013 (cytundebau cartrefi symudol), ac Atodlen 2 iddi, gan gynnwys gweddill adran 52 o Ran 4 a pharagraffau 9 i 13 a pharagraff 23 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2; ac
(e) Rhan 5 o Ddeddf 2013 (pwerau’r awdurdodau lleol), ac Atodlen 3 iddi.
(2) Mae’r diwygiadau canlyniadol yn Atodlen 4 i Ddeddf 2013 i gael eu trin, felly, fel rhai nad ydynt yn cael effaith hyd 1 Hydref 2014.
Darpariaethau Arbed - gwerthu cartref symudol neu roi cartref symudol yn anrheg
4 

(1) Daw’r erthygl hon i rym ar 1 Hydref 2014.
(2) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo meddiannydd cartref symudol, cyn 1 Hydref 2014, wedi cyflwyno cais i berchennog o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (gwerthiannau) (gan gynnwys o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan baragraff 9(2) o’r Bennod honno (anrhegion)).
(3) Er gwaethaf erthygl 3—
(a) nid yw paragraffau 9 i 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yn gymwys mewn perthynas â’r cais; a
(b) bydd paragraff 8 neu 9 (yn ôl fel y digwydd) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r cais.
(4) Mae’r tribiwnlys i barhau i fod ag awdurdodaeth i ystyried unrhyw achosion a gyflwynir o dan baragraff 8(1E) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 ac mae adran 4 o Ddeddf 1983 (awdurdodaeth y tribiwnlys neu’r llys: Cymru a Lloegr) i barhau i gael effaith ar gyfer yr achosion hynny.
(5) Mae’r arbediad ym mharagraff (3) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r cais—
(a) os yw’r meddiannydd, ar ôl gwneud cais o’r math a grybwyllir ym mharagraff 8(1E) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 bod y person y bwriedir gwerthu’r cartref symudol iddo neu ei roi iddo yn anrheg yn cael ei gymeradwyo—
(i) yn tynnu’r cais yn ôl; a
(ii) yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perchennog yn tynnu’r cais yn ôl; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, os yw’r meddiannydd yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perchennog yn tynnu’r cais yn ôl.
(6) Yn achos gwerthiant, os yw gwerthiant y cartref symudol ac aseiniad y cytundeb yn digwydd ar 1 Hydref 2014 neu wedi hynny, yna er gwaethaf erthygl 3—
(a) nid yw paragraffau 9 i 13 o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn perthynas â chomisiwn ar y gwerthiant; a
(b) mae Gorchymyn Cartrefi Symudol (Comisiynau) 1983 i barhau i gael effaith at ddiben penderfynu swm y comisiwn sy’n ddyladwy i’r perchennog.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
6 Ionawr 2014