
2014 Rhif 1099 (Cy. 109)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 26 Ebrill 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Ebrill 2014
Yn dod i rym 20 Mai 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 20 Mai 2014.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007.
Diwygio Rheoliadau 2007
3 

(1) Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn 2 o Dabl A yn Atodlen 1 (addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yn yr addasiad o reoliad 45 (terfyn cyfalaf), yn lle “£23,250” rhodder “£24,000”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Ebrill 2014