
2014 Rhif 109 (Cy. 09)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 20 Ionawr 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Ionawr 2014
Yn dod i rym 14 Chwefror 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 46(2), 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 14 Chwefror 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (cyffuriau neu feddyginiaethau i’w harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig)—
(a) yn y pennawd i’r Atodlen, yn lle “on” rhodder “or”;
(b) yng ngholofn 1 o’r tabl (cyffuriau), ar gyfer trin camweithredu ymgodol, hepgorer—
(i) “(Caverject), (MUSE), (Viridal)”,
(ii) “(Uprima)”,
(iii) “(Erecnos)” (yn y naill le a’r llall lle y mae’n ymddangos),
(iv) “(Viagra)”,
(v) “(Cialis)”, a
(vi) “(Levitra)”;
(c) yng ngholofn 2 o’r tabl (claf)—
(i) ar ddechrau’r cofnod sy’n ymwneud â chyffuriau ar gyfer trin camweithredu ymgodol, mewnosoder “(1) The following patients with erectile dysfunction—”, a
(ii) ar ddiwedd paragraff (g) o’r cofnod hwnnw, mewnosoder—“;
(2) Any patient”; a
(d) yng ngholofn 3 (cyflwr), gyferbyn â “(2) Any patient” yng ngholofn 2, mewnosoder y geiriau “Treatment of a condition other than erectile dysfunction, in respect of which the drug ordered is in receipt of a UK or EU marketing authorisation for the treatment of that condition”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2014