
2014 Rhif 1067 (Cy. 106)
Adnoddau Dŵr, Cymru
Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2014
Gwnaed 21 Ebrill 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Ebrill 2014
Yn dod i rym 15 Mai 2014

Dynodir Gweinidogion Cymru mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno o’r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru wedi dewis ymgynghori mewn perthynas â rheoliad 6 o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (“y Rheoliadau”) .
Enwi, cychwyn a rhychwantu
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mai 2014.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Amrywio Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013
2 

(1) Mae’r Rheoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (dŵr wyneb yng Nghymru)—
(a) ar ôl “Llanrhystud”, mewnosoder “Llyn Padarn”; a
(b) ar ôl “Rhyl”, mewnosoder “Rhyl East”.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru.
21 Ebrill 2014