
2014 Rhif 1004 (Cy. 93)
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Gorchymyn Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (Anghymhwyso o’r Bwrdd Taliadau) 2014
Gwnaed 11 Ebrill 2014
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1
Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 5(2) a (3) o Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, yn dilyn hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y Llywydd o dan adran 5(4) o’r Mesur hwnnw fod penderfyniad wedi ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (Anghymhwyso o’r Bwrdd Taliadau) 2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.
(4) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Atodlen 1 (Anghymwyso rhag bod yn Aelod o’r Bwrdd)
2 
Mae paragraff 1 o Atodlen 1 i’r Mesur wedi ei ddiwygio fel a ganlyn:
(a) yn is-baragraff (e) hepgorer “Tŷ’r Arglwyddi,”;
(b) hepgorer is-baragraff (m).
Theodore Huckle CF
Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru
11 Ebrill 2014