
2013 Rhif 821 (Cy. 97)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 9 Ebrill 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Ebrill 2013
Yn dod i rym 1 Mai 2013

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd ac o ran mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffotoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) (Diwygio) 2013; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Mai 2013.
Diwygio Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007
2 
Mae Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98” (“Commission Regulation (EC) No 494/98”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso y lefel isaf o sancsiynau gweinyddol yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol;”.
4 
Yn rheoliad 10 (pwerau arolygwyr), yn lle paragraff (1)(c) rhodder—“
(c) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98;”.
5 
Yn rheoliad 12 (cigydda anifeiliaid heb eu marcio), hepgorer “awdurdod milfeddygol a'r”.
Atodlen 2 (cofrestru gwartheg)
6 
Ym mharagraff 2(3) o Atodlen 2, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;”.
Atodlen 3 (pasbortau gwartheg)
7 
Ym mharagraff 11 o Atodlen 3, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Ond nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i feddiannydd lladd-dy.”
Atodlen 4 (hysbysiad o symud neu farwolaeth)
8 
Yn Atodlen 4—
(a) ym mharagraff 1(1), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;”; a
(b) ym mharagraff 2—
(i) yn lle is-baragraffau (1) i (3) rhodder—“
(1) Pan gigyddir anifail mewn lladd-dy, rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth o fewn saith niwrnod—
(a) drwy ddefnyddio gwefan ryngweithiol Gweinidogion Cymru;
(b) drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;
(c) drwy ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu
(ch) drwy gwblhau'r manylion am y farwolaeth ym mhasbort yr anifail a'i ddychwelyd i Weinidogion Cymru,
a rhaid iddo ddychwelyd pasbort yr anifail i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod.
(2) Os cigyddir anifail y tu allan i ladd-dy ond ei fod yn cael ei anfon i ladd-dy er mwyn ei drin, rhaid i'r ceidwad lenwi'r manylion am y farwolaeth yn y pasbort a'i anfon gyda'r anifail i'r lladd-dy, a rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu'r farwolaeth drwy ddychwelyd y pasbort i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod ar ôl marwolaeth yr anifail.
(3) Yn unrhyw achos arall, pan fydd anifail yn marw neu'n cael ei ladd rhaid i'r ceidwad hysbysu Gweinidogion Cymru am y farwolaeth o fewn saith niwrnod—
(a) drwy ddefnyddio gwefan ryngweithiol Gweinidogion Cymru;
(b) drwy ddefnyddio gwasanaeth ffôn awtomataidd Gweinidogion Cymru;
(c) drwy ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu
(ch) drwy gwblhau'r manylion am y farwolaeth ym mhasbort yr anifail a'i ddychwelyd i Weinidogion Cymru,
a rhaid iddo ddychwelyd pasbort yr anifail i Weinidogion Cymru o fewn saith niwrnod.
(3A) Ond pan fo arolygydd wedi cymryd ac wedi cadw pasbort anifail o dan reoliad 10(3)(ch), nid yw gofyniad o dan y paragraff hwn i ddychwelyd y pasbort i Weinidogion Cymru yn gymwys cyhyd ag y mae'r pasbort yn cael ei gadw yn y fath fodd.”, a
(ii) hepgorer is-baragraff (5).
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
9 Ebrill 2013