
2013 No. 736 (Cy.88)
GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU
PENSIYNAU, CYMRU
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2013
Gwnaed 26 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Mawrth 2013
Yn dod i rym 1 Ebrill 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(1) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a Chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013.
Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992
2 
Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (lle y mae Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) wedi ei nodi), fel y mae'n cael effaith yng Nghymru, wedi ei diwygio yn unol ag erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
3 
Yn lle'r Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8 rhodder y Tabl canlynol—“

Pensionable Pay Contribution rate from 1 April 2013
Up to and including £15,000 11.0%
More than £15,000 and up to and including £21,000 11.9%
More than £21,000 and up to and including £30,000 12.9%
More than £30,000 and up to and including £40,000 13.2%
More than £40,000 and up to and including £50,000 13.5%
More than £50,000 and up to and including £60,000 13.7%
More than £60,000 and up to and including £100,000 14.1%
More than £100,000 and up to and including £120,000 14.5%
More than £120,000 15.0%.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2013