
2013 Rhif 735 (Cy.87)
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
PENSIYNAU, CYMRU
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2013
Gwnaed 26 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Mawrth 2013
Yn dod i rym 1 Ebrill 2013

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
Fel sy'n ofynnol gan adran 34(5) o'r Ddeddf honno, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â'r personau sydd yn eu barn hwy yn briodol cyn gwneud y Gorchymyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013.
Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007
2 
Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (lle y mae Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) wedi ei nodi) wedi ei diwygio yn unol ag erthyglau 3 a 4.
3 
Ym Mhennod 1 o Ran 11 (tâl pensiynadwy, cyfraniadau pensiwn a phrynu gwasanaeth ychwanegol), yn rheol 3(1) (cyfraniadau pensiwn)  mewnosoder “ganrannol” ar ôl “cyfradd”.
4 
Yn lle'r Tabl ym mharagraff 5 o Atodiad A1 rhodder y Tabl canlynol—“

Tâl pensiynadwy Y gyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2013 ymlaen
Hyd at a chan gynnwys £15,000 8.5% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £15,000 a hyd at a chan gynnwys £21,000 9.1% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £21,000 a hyd at a chan gynnwys £30,000 9.6% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £30,000 a hyd at a chan gynnwys £40,000 9.9% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £40,000 a hyd at a chan gynnwys £50,000 10.1% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £50,000 a hyd at a chan gynnwys £60,000 10.2% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £60,000 a hyd at a chan gynnwys £100,000 10.5% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £100,000 a hyd at a chan gynnwys £120,000 10.8% o'r tâl pensiynadwy
Mwy na £120,000 11.1% o'r tâl pensiynadwy.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2013