
2013 Rhif 664 (Cy.77)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd (Diddymu) 2013
Gwnaed 19 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Mawrth 2013
Yn dod i rym 11 Ebrill 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 128 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac sy'n arferadwy bellach ganddynt hwy.
Yn unol ag adran 128(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988, mae Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Morgannwg (“the University of Glamorgan Higher Education Corporation”), sef corff corfforaethol a sefydlwyd at ddibenion sy'n cynnwys darparu cyfleusterau neu wasanaethau addysgol o fewn ystyr adran 128(1)(b)(ii) o'r Ddeddf honno, wedi cydsynio i eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd (“University of Wales, Newport Higher Education Corporation”) gael eu trosglwyddo iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd ac â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn unol ag adran 128(4) o'r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd (Diddymu) 2013 a daw i rym ar 11 Ebrill 2013.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Corfforaeth Casnewydd” (“the Newport Corporation”) yw Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Cymru, Casnewydd;
 ystyr “Prifysgol Morgannwg” (“University of Glamorgan”) yw Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Morgannwg.
Diddymu Prifysgol Cymru, Casnewydd
3 
Ar 1 Ebrill 2013 mae Corfforaeth Casnewydd wedi ei diddymu ac mae ei holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau wedi eu trosglwyddo i Brifysgol Morgannwg.
4 
Mae adran 127 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn gymwys i unrhyw berson a gyflogwyd gan Gorfforaeth Casnewydd yn union cyn 1 Ebrill 2013 fel petai'r cyfeiriadau yn yr adran honno—
(a) at berson y mae'r adran honno yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at berson a gyflogwyd felly;
(b) at y dyddiad trosglwyddo yn gyfeiriadau at 1 Ebrill 2013;
(c) at yr awdurdod sy'n trosglwyddo yn gyfeiriadau at Gorfforaeth Casnewydd;
(d) at y gorfforaeth yn gyfeiriadau at Brifysgol Morgannwg.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
19 Mawrth 2013