
2013 Rhif 663 (Cy.76)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2013
Gwnaed 19 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Mawrth 2013
Yn dod i rym 18 Ebrill 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 25(7) o Ddeddf Plant 1989, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2013.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Ebrill 2013.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio rheoliad 6 o Reoliadau Plant (Llety Diogel) 1991
2 
Yn rheoliad 6(1) o Reoliadau Plant (Llety Diogel) 1991 (plant sy'n cael eu cadw'n gaeth ac sydd wedi eu remandio y bydd adran 25 o Ddeddf Plant 1989 yn cael effaith mewn perthynas â hwy yn ddarostyngedig i addasiadau)—
(a) yn is-baragraff (a), ar ôl “children” lle y mae'n ymddangos am y tro cyntaf, mewnosoder “aged 12 or over but under the age of 17”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (a) hepgorer “, and”; ac
(c) hepgorer is-baragraff (b).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Mawrth 2013