
2013 Rhif 649 (Cy.73)
YSTADEGAU SWYDDOGOL, CYMRU
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013
Gwnaed 12 Mawrth 2013
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 6(1)(b) a (2) o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007.
Yn unol ag adran 6(3) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Bwrdd Ystadegau.

Yn unol ag adran 65(7) o'r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 a daw i rym ar 1 Ebrill 2013.
Ystadegau Swyddogol — ystadegau swyddogol sydd yn gyfan gwbl yn ystadegau datganoledig Cymru
2 
I'r graddau nad ydynt fel arall yn ystadegau swyddogol yn rhinwedd adran 6(1)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, mae'r ystadegau sydd yn gyfan gwbl yn ystadegau datganoledig Cymru a gynhyrchir, neu sydd i'w cynhyrchu, gan y personau a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, wedi eu pennu'n ystadegau swyddogol at ddibenion adran 6(1)(b) o'r Ddeddf honno.
Jane Hutt
Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2013
YR ATODLEN
Erthygl 2


 Corff Adnoddau Naturiol Cymru
 Comisiynydd y Gymraeg
 Cyngor Celfyddydau Cymru
 Cyngor Chwaraeon Cymru
 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru
