
2013 Rhif 639 (Cy.72)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2013
Gwnaed 18 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Mawrth 2013
Yn dod i rym 8 Ebrill 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2013 ac maent yn dod i rym ar 8 Ebrill 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992
2 
Mae paragraff 3(a) o'r Atodlen i Reoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (i) yn lle “a higher rate” rhodder “an”;
(b) ym mharagraff (ii) ar ôl “highest” mewnosoder “or middle”, ac ar ôl “section 72(4)(a)” mewnosoder “or section 72(4)(b)”;
(c) ar ddiwedd paragraff (iii) hepgorer “or”; a
(d) ar ôl paragraff (iv) mewnosoder—“or
(v) the standard or enhanced rate of the daily living component of personal independence payment under section 78(3) of the Welfare Reform Act 2012;”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
18 Mawrth 2013