
2013 Rhif 634 (Cy.70)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2013
Gwnaed 15 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Mawrth 2013
Yn dod i rym 8 Ebrill 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2013.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2013.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r Prif Reoliadau
2 

(1) Mae'r Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 ar ôl y diffiniad o “permanent resident” mewnosoder—
 “personal independence payment” means personal independence payment under Part 4 of the Welfare Reform Act 2012;”.
(3) Yn Atodlen 3 (symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion)—
(a) ym mharagraff 4 ar ôl “disability living allowance” mewnosoder—“or the mobility component of any personal independence payment.”;
(b) ym mharagraff 6—
(i) hepgorer “or” ar ddiwedd paragraff (a); a
(ii) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“; or
(c) the daily living component of any personal independence payment.”; a
(c) Yn lle paragraff 28 rhodder y canlynol—“
(1) Any council tax benefit or any payment made under a council tax reduction scheme.
(2) In this paragraph “council tax reduction scheme” means a scheme made by a billing authority in accordance with the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012 or which applies in default in accordance with paragraph 6(1)(e) of Schedule 1B to the Local Government Finance Act 1992.”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Mawrth 2013