
2013 Rhif 63 (Cy.14)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 17 Ionawr 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Ionawr 2013
Yn dod i rym 7 Chwefror 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1(1) a 2(4)(e) o Atodlen 2 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 7 Chwefror 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu sydd—
(a) yn perthyn i flwyddyn sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2013 neu wedi hynny, a
(b)  yn cael eu dyroddi gan neu ar ran awdurdodau bilio Cymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Ym mharagraff 7 o Atodlen 1—
(a) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) a determination made under section 12 of the 1993 Act (discounts: special provision for Wales);”;
(b) hepgorer is-baragraff (bb);
(c) ar ddiwedd is-baragraff (e) yn lle “.” rhodder “;”;
(d) ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(f) a reduction made under section 13A(1)(b) of the 1992 Act; or
(g) a reduction made under section 13A(1)(c) of the 1992 Act.”.
(3) Ym mharagraff 8 o Atodlen 1 yn lle “sub-paragraph (a) or (b)” rhodder “sub-paragraph (a), (b) or (g)”.
(4) Ar ôl paragraff 8 o Atodlen 1 mewnosoder—“
8A 
Where a statement falls to be given as mentioned in paragraph 7 by reason of the matter referred to in sub-paragraph (f) of that paragraph—
(a) a statement of the reasons for the reduction and its amount;
(b) a statement—
(i) informing the person affected of the duty imposed by paragraph 113(1) of the scheme prescribed by the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2012 or contained in the authority’s scheme by virtue of paragraph 7(1) of Schedule 13 to the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012, as the case may be;
(ii) explaining the possible consequences (including prosecution) of failing to comply with that duty; and
(iii) setting out the circumstances a change in which might affect entitlement to the reduction or its amount.”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
17 Ionawr 2013