
2013 Rhif 562 (Cy.65)
AER GLÅN, CYMRU
Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 11 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Mawrth 2013
Yn dod i rym 3 Ebrill 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 20(6) o Ddeddf Aer Glân 1993 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 3 Ebrill 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau
2 
Yn yr Atodlen (Tanwyddau Awdurdodedig) i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2008—
(a) ar ôl paragraff 11, mewnosoder—“
11A 
Brics glo Coalite Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a) sydd wedi'u cyfansoddi o 10 i 15 y cant glo meddal, 10 i 15 y cant golosg petrolewm, 70 i 80 y cant llwch glo caled a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres ar ryw 260ºC;
(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd â'u hyd yn rhyw 84.2 o filimetrau ac yn 61.5 o filimetrau x 37.8 o filimetrau;
(ch) sy'n pwyso 118 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d) nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1.9 y cant o sylffwr ar sail sych.”
(b) ar ôl paragraff 17, mewnosoder—“
17A 
Brics glo Ecoal 50, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, North East Lincolnshire—
(a) sydd wedi'u cyfansoddi o ronynnau glo caled (sef rhyw 30 i 55 y cant o'r cyfanswm pwysau), biomas (sef rhyw 25 i 35 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 10 i 40 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 0 i 5 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig naturiol (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu yna triniaeth wres ar dymheredd oddeutu 300ºC mewn amgylchedd wedi ei reoli, â llai o ocsigen;
(c) sy'n frics glo ar siâp hecsagon gyda streipen ar un ochr ar draws y rhannau gwastad;
(ch) sy'n pwyso 135 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d) nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
(c) ar ôl paragraff 18A, mewnosoder—“
18B 
Brics glo Excel+, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal B.V. yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—
(a) sydd wedi'u cyfansoddi o olosg petrolewm (sef 65 i 70 y cant o'r cyfanswm pwysau) a glo caled (sef 25 y cant o'r cyfanswm pwysau) ynghyd â rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel fel gweddill y pwysau;
(b) a gynhyrchir ar dymheredd amgylchynol drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c) sy'n frics glo sgwâr, heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(ch) sy'n pwyso 100 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d) nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1.9 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
(d) ar ôl paragraff 23, mewnosoder—“
23A 
Hot Drops, a weithgynhyrchir gan EU Zeme Limited yn Riga, Eksporta Street 15, LV-1045, Latfia—
(a) sydd wedi'u cyfansoddi o lo caled wedi ei falu (sef rhyw 73 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 18 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr triagl ac asid orthoffosfforig (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu, yna triniaeth wres ar dymheredd oddeutu 250 i 280ºC;
(c) sy'n frics glo, bron yn grwn ar siâp gobennydd, sydd 40 o filimetrau eu diamedr ac sy'n rhyw 21 o filimetrau o drwch yng nghanol y fricsen;
(ch) sy'n pwyso 23 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d) nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.5 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
(e) ar ôl paragraff 29, mewnosoder—“
29A 
Brics glo Newburn, a weithgynhyrchir gan ECL Mineral Processing Limited yn Newfield Works, Newfield, Bishop Auckland, County Durham—
(a) sydd wedi'u cyfansoddi o olosg petrolewm (sef rhyw 56 i 57 y cant o'r cyfanswm pwysau), glo caled (sef rhyw 37 i 38 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr powdr sych (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses o galedu oer gan ddefnyddio rholer gwasgu;
(c) sy'n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sy'n 70 o filimetrau x 62 o filimetrau x 42 o filimetrau;
(ch) sy'n pwyso 110 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d) nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 2 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
(f) ar ôl paragraff 30A, mewnosoder—“
30B 
Brics glo Newheat, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal B.V. yn Newfield Works, Bishop Auckland, County Durham—
(a) sydd wedi'u cyfansoddi o olosg petrolewm (sef rhyw 60 i 65 y cant o'r cyfanswm pwysau) a glo caled (sef rhyw 30 i 35 y cant o'r cyfanswm pwysau) ynghyd â rhwymwr resin sy'n caledu pan fo'n oer, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel (sef gweddill y pwysau);
(b) a gynhyrchwyd ar dymheredd amgylchynol drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;
(c) sy'n frics glo hirgrwn, heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(ch) sy'n pwyso rhyw 100 gram y fricsen ar gyfartaledd; a
(d) nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 1.9 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
(g) ar ôl paragraff 43, mewnosoder—“
43A 
Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—
(a) sydd wedi'u cyfansoddi o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef rhyw 53 i 57 y cant o'r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef rhyw 23 i 27 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol wedi ei seilio ar driagl (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;
(c) sy'n rhyw 210 o filimetrau o hyd, 80 o filimetrau o led a 75 o filimetrau o uchder;
(ch) sy'n pwyso rhwng 1.085 a 1.115 cilogram y boncyff ar gyfartaledd; a
(d) nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.2 y cant o'r cyfanswm pwysau.
43B 
Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—
(a) sydd wedi'u cyfansoddi o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef rhyw 53 i 57 y cant o'r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef rhyw 23 i 27 y cant o'r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol wedi ei seilio ar driagl (sef gweddill y pwysau);
(b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses triniaeth wres ac allwthio;
(c) sy'n rhyw 245 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o led a 68 o filimetrau o uchder;
(ch) sy'n pwyso rhwng 0.985 a 1.015 cilogram y boncyff ar gyfartaledd; a
(d) nad yw'r sylffwr sydd ynddynt yn fwy na 0.2 y cant o'r cyfanswm pwysau.”
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2013