
2013 Rhif 547 (Cy.59)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 6 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Mawrth 2013
Yn dod i rym 1 Ebrill 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1, 5(1) ac 8 o Atodlen 11 iddi ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol â pharagraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2013.
Diwygio Rheoliadau
2 

(1) Mae Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 9 (penodi aelodau'r tribiwnlys prisio)—
(a) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Y nifer lleiaf o aelodau y mae'n rhaid i gyngor a'r Llywydd eu penodi yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 4 o Atodlen 1.”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Y nifer mwyaf o aelodau y caiff cyngor a'r Llywydd eu penodi yw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 5 o Atodlen 1.”;
(c) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) At ddiben y rheoliad hwn, ni fydd swydd wag yn digwydd ac eithrio pan fo nifer yr aelodau a benodwyd gan gyngor a'r Llywydd—
(a) yn syrthio islaw'r nifer a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 4 o Atodlen 1; neu
(b) yn syrthio islaw nifer yr aelodau a bennir mewn perthynas â'r cyngor hwnnw yng ngholofn 5 o Atodlen 1 ac yn syrthio islaw'r nifer sy'n ofynnol, ym marn y Llywydd, i gyflawni swyddogaethau'r Tribiwnlys.”;
(d) ym mharagraff (5) yn lle “5” rhodder “6”.
(3) Yn rheoliad 27 (dehongli) ar ôl y diffiniad o “cosb” mewnosoder—“
 ystyr “cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 neu'r cynllun sy'n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992;”.
(4) Yn rheoliad 30 (cychwyn apêl)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) hepgorer “ac”;
(b) ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c)  ar ôl is-baragraff (2)(c) mewnosoder—“
(ch) pan fo'r apelydd hefyd wedi gwneud apêl i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn unol â Rheoliadau Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor (Penderfyniadau ac Apelau) 2001 a bod yr apêl yn codi materion cyffredin o ffaith gyda'r apêl a wneir o dan adran 16 o Ddeddf 1992, copi o'r hysbysiad a ddarperir yn unol â rheoliad 20(1) o'r Rheoliadau hynny ac unrhyw wybodaeth arall y mae'n ofynnol ei darparu o dan reoliad 20 o'r Rheoliadau hynny.
(2A) Rhaid i hysbysiad am apêl a roddir o dan baragraff (2) ddod gyda chopi o unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a ddarperir gan yr awdurdod bilio yn unol ag adran 16(7)(a) neu (b).”.
(5) Ar ôl rheoliad 32 (tynnu'n ôl) mewnosoder—“
Dileu trafodion
32A 

(1) Caiff y Tribiwnlys Prisio ddileu apêl neu ran o apêl—
(a) pan fo'r apêl, neu ran o'r apêl, yn ymwneud â phenderfyniad awdurdod bilio i ddyfarnu gostyngiad o dan ei gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor; a
(b) pan fo'r awdurdod bilio wedi dyfarnu'r gostyngiad mwyaf y caniateir iddo ei ddyfarnu o dan ei gynllun.
(2) Pan fo rhan yn unig o'r apêl yn dod o fewn paragraff (1), dim ond y rhan honno o'r apêl y caiff y Tribiwnlys Prisio ei dileu.
(3) Ni chaiff y Tribiwnlys Prisio ddileu apêl, neu ran o apêl, cyn rhoi cyfle yn gyntaf i'r apelydd gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r dileu arfaethedig.”.
(6) Yn rheoliad 37 (trefn y gwrandawiad — panelau apêl)—
(a) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Rhaid cynnal y gwrandawiad yn gyhoeddus oni bai bod y Panel Apêl yn gorchymyn fel arall gan ei fod wedi ei fodloni ei fod er budd cyfiawnder i gynnal gwrandawiad, neu ran o wrandawiad, yn breifat.”;
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Pan fo gwrandawiad i'w gynnal yn breifat, caiff y Panel Apêl benderfynu pwy a gaiff fod yn bresennol yn y gwrandawiad neu ran o'r gwrandawiad.”.
(7) Yn rheoliad 38(1) (tystiolaeth: cyffredinol) ar ôl “Ddeddf honno” mewnosoder “neu adran 131 o Ddeddf Diwygio Lles 2012”.
(8) Yn enw colofn 4 o Atodlen 1 yn lle “Nifer” rhodder “Nifer lleiaf”.
(9) Yn lle colofn 5 yn Atodlen 1 rhodder—“

5 6
Nifer mwyaf o aelodau sydd i'w penodi gan bob cyngor Nifer mwyaf o aelodau sy'n aelodau o'r cyngor
8 3
13 5
7 3
10 4
14 5
8 3
10 4
7 3
10 4
10 4
10 4
10 4
10 4
19 7
7 3
16 6
10 4
7 3
13 5
11 4
10 4
16 6”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2013