
2013 Rhif 545 (Cy.58)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Diwygio Amrywiol a Dirymu) (Cymru) 2013
Gwnaed 6 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Mawrth 2013
Yn dod i rym 6 Ebrill 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1) a (3), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) (c) a (4) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu'r gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod llunio a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Diwygio Amrywiol a Dirymu) (Cymru) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2013.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
2 

(1) Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), yn lle is-baragraff (b) o baragraff (15) rhodder y canlynol—“
(b) the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by paragraphs (1) to (5) and (7) of regulation 2 of the Food Labelling (Declaration of Allergens) (Wales) Regulations 2008 had not been in operation when the food was sold.”.
Dirymu
3 
Mae'r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu —
(a) Rheoliadau Arsenig mewn Bwyd 1959;
(b) Rheoliadau Arsenig mewn Bwyd (Diwygio) 1960;
(c) Rheoliadau Arsenig mewn Bwyd (Diwygio) 1973;
(d) Rheoliadau Clorofform mewn Bwyd 1980; ac
(e) Rheoliadau Wyau heb eu Graddio (Hylendid) 1990.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2013