
2013 Rhif 544 (Cy.57)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 6 Mawrth 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 11 Mawrth 2013
Yn dod i rym 1 Ebrill 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 125 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2013.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (cyfrifo ffioedd)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£12.40” rhodder “£12.70”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “£40.20” rhodder “£41.10”; ac
(c) ym mharagraff (5), yn lle “£12.40” rhodder “£12.70”.
Dirymu
3 
Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2012 wedi eu dirymu.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2013