
2013 Rhif 53 (Cy.12)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr) 2013
Gwnaed 14 Ionawr 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Ionawr 2013
Yn dod i rym 1 Ebrill 2013

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac sydd bellach wedi ei freinio ynddynt hwy.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o'i ardal.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2013
YR ATODLEN
Ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Erthygl 2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyfan ac eithrio Traffordd yr M4 a'i ffyrdd ymuno ac ymadael gan gynnwys yr holl ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol a deheuol a'r cerbytffyrdd cylchredol wrth Gyffordd 35 (yr A473); Cyffordd 36 (yr A4061) a Chyffordd 37 (yr A4229).
