
2013 Rhif 51 (Cy.11)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg) 2013
Gwnaed 14 Ionawr 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Ionawr 2013
Yn dod i rym 1 Ebrill 2013

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac sydd bellach wedi ei freinio ynddynt hwy.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o'i ardal.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2013
YR ATODLEN
Ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Erthygl 2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Fwrdeistref Sirol Bro Morgannwg yn gyfan ac eithrio—
(a) Traffordd yr M4 gan gynnwys yr holl ffyrdd ymuno ac ymadael o'r ffin â Dinas a Sir Caerdydd wrth bwynt sydd ar ochr orllewinol y drosbont orllewinol wrth Gyffordd 33, i'r ffin â Rhondda Cynon Taf wrth bwynt sydd tua 260 o fetrau i'r gorllewin o ganol Cyffordd 34;
(b) ffyrdd y Weinyddiaeth Amddiffyn sydd o fewn Sain Tathan gan gynnwys—
Y darn cyfan o Aled Way o'i chyffordd â Flemingston Road;
Y darnau cyfan o Talybont Close, Clwyd Way, Margam Close, Tintern Close a Celyn Close o'u cyffyrdd ag Aled Way;
Y darnau cyfan o Crynant Close ac Ebbw Close o'u cyffyrdd â Clwyd Close;
Y darn cyfan o'r ffordd ddienw sy'n wynebu Eglwys a Chanolfan Gymunedol “The Gathering Place” o'i chyffordd â Flemingston Road.
