
2013 Rhif 437 (Cy.53)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013
Gwnaed 27 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Chwefror 2013
Yn dod i rym yn unol ag adran 1(1)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 29, 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996, ac yn adrannau 30(1) a (2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy'n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013 ac maent yn dod i rym ar 1 Mai 2013 ac eithrio rheoliad 3(5) a ddaw i rym ar 1 Medi 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ar ôl y diffiniad o “absenoldeb anawdurdodedig” mewnosoder—“
 ystyr “adroddiad cymharol ar lythrennedd a rhifedd” (“literacy and numeracy comparative report”) yw adroddiad a ddarperir i'r ysgol gan Weinidogion Cymru ar berfformiad ysgol yn yr asesiadau statudol sy'n cynnwys cymhariaeth o berfformiad yr ysgol honno mewn cysylltiad â'r profion hynny mewn perthynas ag ysgolion eraill;”;
(b) ar ôl y diffiniad o “adroddiad llywodraethwyr” mewnosoder—“
 ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw'r trefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013;”.
(3) Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 5 mewnosoder—“
5A 
Yr adroddiad cymharol diweddaraf ar lythrennedd a rhifedd.”.
Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011
3 

(1) Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, hepgorer paragraff (3)(a).
(3) Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Pan fo disgybl ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen rhaid i'r adroddiad gynnwys yr wybodaeth sydd ym mharagraff 1 o Ran 1 o'r Atodlen.”.
(4) Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 6 mewnosoder—
“Rhan 4A Asesu disgyblion yn y cyfnod sylfaen ac yng nghyfnodau allweddol dau a thri mewn darllen a rhifedd
6A 

(1) Canlyniadau unrhyw asesiad a gynhelir yn unol â'r trefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013.
(4) Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 6 mewnosoder—“
Rhan 4B Cynnydd disgyblion yn y cyfnod sylfaen ac yng nghyfnodau allweddol dau a thri mewn darllen a rhifedd
(1) Crynodeb byr o gynnydd y disgyblion yn unol â'r rhaglenni addysgol ychwanegol a'r rhaglenni astudio ychwanegol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a'r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013.”.
Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011
4 

(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 —
(a) ar ôl y diffiniad o “absenoldeb anawdurdodedig” mewnosoder—“
 ystyr “adroddiad cymharol ar lythrennedd a rhifedd” (“literacy and numeracy comparative report”) yw adroddiad a ddarperir i'r ysgol gan Weinidogion Cymru ar berfformiad ysgol yn yr asesiadau statudol sy'n cynnwys cymhariaeth o berfformiad yr ysgol honno mewn cysylltiad â'r profion hynny mewn perthynas ag ysgolion eraill;”;
(b) ar ôl y diffiniad o “arholiadau cyhoeddus” mewnosoder—“
 ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw'r trefniadau asesu a bennir gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013;”.
(3) Yn rheoliad 5(1) yn lle “cyn 1 Hydref” rhodder “heb fod yn hwyrach na 1 Hydref”.
(4) Yn Atodlen 3, ar ôl paragraff 30 mewnosoder—“
(31) Yr adroddiad cymharol diweddaraf ar lythrennedd a rhifedd”.
Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011
5 

(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “asesiadau statudol” yn lle is-baragraff (i) rhodder—“
(i) yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013; a;” .
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2013