
2013 Rhif 374 (Cy.46)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Coleg Cambria (Corffori) 2013
Gwnaed 20 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Chwefror 2013
Yn dod i rym 26 Mawrth 2013

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 16(1)(a) a 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac sydd bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn yn unol ag adran 16A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.

Yn unol â hyn, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Cambria (Corffori) 2013 a daw i rym ar 26 Mawrth 2013.
Corfforaeth Newydd
2 
Ar 26 Mawrth 2013 mae corff corfforaethol o'r enw Coleg Cambria i'w sefydlu, at ddiben sefydlu a rhedeg, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, sefydliad addysgol o'r un enw.
Dyddiad gweithredu
3 
Y dyddiad gweithredu a bennir mewn perthynas â Choleg Cambria yw 1 Awst 2013, a bydd y gorfforaeth yn rhedeg y sefydliad addysgol Coleg Cambria o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2013