
2013 Rhif 372 (Cy.45)
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Cyrsiau Adsefydlu (Troseddau Yfed Perthnasol) (Cymru) 2013
Gwnaed 19 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Chwefror 2013
Yn dod i rym
Rheoliadau 1 i 4, 7(1) a (4)(a) a rheoliad 12 i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoliad 3. 15 Mawrth 2013
Pob rheoliad arall, a rheoliad 12 at bob diben sy'n weddill. 24 Mehefin 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 34B(3) a (10), 34BA(5) a 34C(4) o Ddeddf Troseddwyr Traffig Ffyrdd 1988, ac a freinir bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyrsiau Adsefydlu (Troseddau Yfed Perthnasol) (Cymru) 2013.
(2) Mae rheoliadau 1 i 4, 7(1) a (4)(a), a rheoliad 12 i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoliad 3,yn dod i rym ar 15 Mawrth 2013.
(3) Mae pob rheoliad arall, a rheoliad 12 at bob diben sy'n weddill, yn dod i rym ar 24 Mehefin 2013.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y cwrs” (“the course”) yw cwrs at ddibenion adran 34A o'r Ddeddf mewn perthynas â chollfarnu person am drosedd yfed perthnasol;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Troseddwyr Traffig Ffyrdd 1988.
Cymeradwyo cyrsiau
Ceisiadau am gymeradwyaeth
3 

(1) Rhaid i gais am gymeradwyaeth ar gyfer cwrs fod yn ysgrifenedig, a rhaid ei gyflwyno ynghyd â pha bynnag wybodaeth y gofynnir amdani yn rhesymol gan Weinidogion Cymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod ystyried cais os yw'r ceisydd yn methu â chydymffurfio â gofynion paragraff (1).
Gweinidogion Cymru
4 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi penderfyniad ysgrifenedig ar bob cais am gymeradwyaeth.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu gwrthod rhoi cymeradwyaeth ar gyfer cwrs neu'n rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amod, rhaid rhoi'r rhesymau dros y gwrthodiad neu dros osod yr amod, ynghyd â'r penderfyniad.
Ffioedd
5 

(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cymeradwyaeth ar gyfer cwrs, bydd ffi (“ffi cwblhau cwrs”) a gyfrifir yn unol â pharagraff (2) yn daladwy gan ddarparwr y cwrs i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (3), ac os na thelir y ffi, bydd y ffi yn adenilladwy ar unwaith fel dyled sifil.
(2) Y ffi cwblhau cwrs yw swm sy'n hafal i £7 am bob troseddwr perthnasol.
(3) Bydd y ffi cwblhau cwrs yn daladwy ar bob diwrnod perthnasol tra bo'r cwrs yn gymeradwy, ac os peidia'r cwrs â bod yn gymeradwy, bydd y ffi'n daladwy ar neu cyn y pedwerydd diwrnod ar ddeg ar ôl terfynu'r gymeradwyaeth.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) ystyr “diwrnod perthnasol” (“relevant day”) yw'r diwrnod sy'n digwydd ar bob un o'r dyddiadau, 14 Ionawr, 14 Ebrill, 14 Gorffennaf a 14 Hydref mewn unrhyw flwyddyn benodol;
(b) ystyr “troseddwr perthnasol” (“relevant offender”), mewn perthynas â chwrs cymeradwy, yw person sydd wedi cwblhau'r cwrs hwnnw yn ystod y cyfnod perthnasol; ac
(c) ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw'r cyfnod o dri mis sy'n diweddu ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr, ac sy'n digwydd yn union o flaen y diwrnod perthnasol.
Tynnu cymeradwyaeth yn ôl
6 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu yn ôl eu cymeradwyaeth ar gyfer cwrs os bodlonir hwy fod darparwr y cwrs—
(a) wedi methu â bodloni amod a osodwyd ar y gymeradwyaeth i'r cwrs;
(b) wedi anwybyddu canllawiau a roddwyd o dan adran 34C(1) o'r Ddeddf; neu
(c) wedi peidio â bod yn berson priodol i ddarparu'r cwrs neu wedi peidio â gweinyddu'r ddarpariaeth o'r cwrs yn effeithlon neu'n effeithiol.
(2) Os oes bwriad gan Weinidogion Cymru i dynnu'n ôl eu cymeradwyaeth ar gyfer cwrs, rhaid iddynt roi hysbysiad ysgrifenedig o'u bwriad i ddarparwr y cwrs, gan ddatgan—
(a) y rhesymau dros eu bwriad; a
(b) bod hawl gan ddarparwr y cwrs i wneud sylwadau ynglŷn â'r bwriad.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i ddarparwr y cwrs o dan baragraff (2)—
(a) caiff y person hwnnw, ddim hwyrach na'r cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad o dan baragraff (2), gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ynglŷn â'u bwriad;
(b) rhaid i Weinidogion Cymru beidio â phenderfynu a fyddant yn tynnu'r gymeradwyaeth yn ôl ai peidio tan ar ôl i'r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ddod i ben; ac
(c) os gwneir unrhyw sylwadau o'r fath o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y sylwadau hynny i ystyriaeth cyn penderfynu a fyddant yn tynnu'r gymeradwyaeth yn ôl ai peidio.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth wneud penderfyniad i dynnu'n ôl y gymeradwyaeth ar gyfer cwrs, roi hysbysiad ysgrifenedig i ddarparwr y cwrs, a rhaid i'r hysbysiad hwnnw ddatgan—
(a) y dyddiad y bydd tynnu'n ôl y gymeradwyaeth yn cael effaith, sef ddim llai na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, yn ddarostyngedig i reoliad 7(3);
(b) y rhesymau dros y penderfyniad i dynnu'n ôl y gymeradwyaeth; ac
(c) bod hawl gan ddarparwr y cwrs i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf o dan reoliad 7(2)(a).
(5) Nid yw paragraffau (2) i (4) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru—
(a) wedi eu bodloni, oherwydd camymddygiad difrifol gan ddarparwr y cwrs neu gan berson sy'n gweithredu ar ran, neu o dan gyfarwyddyd, darparwr y cwrs, bod rhaid tynnu'r gymeradwyaeth yn ôl ar unwaith; a
(b)  yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw i ddarparwr y cwrs, gan ddatgan—
(i) natur y camymddygiad; a
(ii) hawl darparwr y cwrs i—(aa) apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf o dan reoliad 7(2)(b); a(bb) gwneud cais i'r Tribiwnlys hwnnw am adfer y gymeradwyaeth.
(6) Ceir rhoi hysbysiad o dan baragraff (2), (4) neu (5)(b) drwy ei ddanfon at ddarparwr y cwrs, ei adael yn y cyfeiriad olaf sy'n hysbys ar gyfer darparwr y cwrs, neu ei anfon drwy'r post at ddarparwr y cwrs.
Apelau
7 

(1) Pan fo person wedi gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer cwrs, a'r cais hwnnw—
(a) wedi ei wrthod, neu
(b) wedi ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i amodau,
caiff y person hwnnw apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad Gweinidogion Cymru.
(2) Caiff darparwr y cwrs apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad Gweinidogion Cymru pan fo hysbysiad sy'n tynnu'n ôl y gymeradwyaeth ar gyfer cwrs wedi ei gyflwyno o dan—
(a) rheoliad 6(4); neu
(b) rheoliad 6(5)(b).
(3) Os gwneir apêl o dan baragraff (2)(a) o fewn 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd hysbysiad o dan reoliad 6(4), bydd yr hysbysiad o dynnu'r gymeradwyaeth yn ôl yn cael ei atal hyd nes gwneir penderfyniad ar y mater gan Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.
(4) Yn yr apêl, caiff Tribiwnlys yr Haen Gyntaf wneud y cyfryw orchymyn yr ystyria'n briodol—
(a) os gwnaed yr apêl o dan baragraff (1), gan ganiatáu'r cais (yn ddarostyngedig i amodau neu hebddynt) neu ei wrthod, neu
(b) os gwnaed yr apêl o dan baragraff (2), gan dynnu'r gymeradwyaeth yn ôl, neu adfer neu barhau'r gymeradwyaeth (yn ddarostyngedig i amodau neu hebddynt).
Cynnal cyrsiau
Ffioedd am gyrsiau
8 

(1) Isafswm y ffi y caiff darparwr cwrs ei gwneud yn ofynnol bod person yn ei thalu am fod yn bresennol ar gwrs yw £150. Uchafswm y ffi y caiff darparwr cwrs ei gwneud yn ofynnol bod person yn ei thalu am fod yn bresennol ar gwrs yw £250.
(2) Caiff darparwr cwrs godi'r ffi presenoldeb naill ai ymlaen llaw neu mewn rhandaliadau.
(3) Rhaid i'r ffi presenoldeb gael ei thalu'n llawn cyn i'r person sy'n dilyn y cwrs ei gwblhau.
Monitro cyrsiau a darparwyr cyrsiau
9 

(1) Rhaid i ddarparwr cwrs, os gofynnir iddo gan Weinidogion Cymru, ddarparu i Weinidogion Cymru—
(a) pa bynnag wybodaeth ynghylch trefniadau gweinyddol darparwr y cwrs ac ynghylch cynnal y cyrsiau, y gofynnir amdani yn rhesymol gan Weinidogion Cymru, ym mha bynnag fodd a fynnir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru; a
(b) cofnodion neu ddogfennau eraill (ym mha bynnag ffurf y'u cedwir) a gedwir at y dibenion o gydymffurfio ag adrannau 34A i 34C o'r Ddeddf ac â'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r wybodaeth neu'r dogfennau (yn ôl fel y digwydd) y gofynnir amdanynt o dan baragraff (1) gael eu darparu gan ddarparwr y cwrs o fewn pa bynnag derfyn amser a bennir yn rhesymol gan Weinidogion Cymru, neu, os na phennir terfyn amser, cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl.
Cwblhau cwrs
10 
Y dystysgrif y cyfeirir ati yn adran 34B(1) o'r Ddeddf yw tystysgrif yn y ffurf a osodir yn Atodlen 1.
11 
Mae hysbysiad o dan adran 34B(5) o'r Ddeddf—
(a) yn hysbysiad yn y ffurf a osodir yn Atodlen 2; a
(b) i'w drin fel pe bai wedi ei roi i berson os—
(i) cyfeiriwyd yr hysbysiad at y person hwnnw yn y cyfeiriad olaf sy'n hysbys ar ei gyfer,
(ii) anfonwyd yr hysbysiad drwy'r post i'r cyfeiriad hwnnw, a
(iii) ardystiwyd ei bostio felly gan y cludydd,
hyd yn oed os dychwelir yr hysbysiad fel eitem nas danfonwyd, neu nas derbyniwyd gan y person hwnnw am unrhyw reswm arall.
Cyhoeddi gwybodaeth
Gwybodaeth am gyrsiau a darparwyr cyrsiau
12 
Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth a ddaeth i feddiant Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod cenedlaethol priodol, am ddarparwyr y cyrsiau, neu am gynnwys neu gost y cyrsiau, neu'r dulliau o gynnal y cyrsiau, boed hynny o dan reoliad 3 neu 9 neu rywfodd arall.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2013
ATODLEN 1
Rheoliad 10

ATODLEN 2
Rheoliad 11(a)
