
2013 Rhif 371 (Cy.44)
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 19 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Chwefror 2013
Yn dod i rym 16 Mawrth 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2013.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 16 Mawrth 2013.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008
2 

(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 7(ch) yn lle “31 Mawrth 2013” rhodder “31 Mawrth 2014”.
(3) Yn erthygl 11(d) yn lle “31 Mawrth 2013” rhodder “31 Mawrth 2014”.
(4) Yn erthygl 11(dd) yn lle “31 Mawrth 2013” rhodder “31 Mawrth 2014”.
(5) Ym mhennawd erthygl 11A (y swm o E rhwng 1 Hydref 2010 a 31 Mawrth 2013) yn lle “31 Mawrth 2013” rhodder “31 Mawrth 2014”.
(6) Yn erthygl 11A(2) yn lle “31 Mawrth 2013” rhodder “31 Mawrth 2014”.
Edwina Hart
Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2013