
2013 Rhif 3270 (Cy. 320)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013
Gwnaed 27 Rhagfyr 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 31 Rhagfyr 2013
Yn dod i rym 1 Ionawr 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, ac y maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Mae’r Rheoliadau hyn—
(a) yn dwyn yr enw Rheoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013;
(b) yn gymwys o ran Cymru; ac
(c) yn dod i rym ar 1 Ionawr 2014.
Diwygio Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“Council Regulation”) ac ar ôl y diffiniad o “mochyn glân” (“clean pig”) mewnosoder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013, sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”
(3) Yn rheoliad 2(3) (dehongli) hepgorer is-baragraff (b).
(4) Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau Ewropeaidd: carcasau buchol)—
(a) yng ngholofn (1) o’r tabl, yn lle “Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Rheoliad (EU) 2013”;
(b) yng ngholofn 2 o’r tabl, yn lle “Atodiad V”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Atodiad IV”.
(5) Yn y tabl yn Atodlen 2 (darpariaethau Ewropeaidd: carcasau moch)—
(a) yng ngholofn (1), yn lle “Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Rheoliad (EU) 2013”;
(b) yng ngholofn (2), yn lle “Atodiad V”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Atodiad IV”.
Diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2(1)(c) (yr awdurdod cymwys) rhodder—“
(c) Erthygl 78 o Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rhan I o Atodiad VII iddo, a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013, sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”.
(3) Yn lle rheoliad 4(1)(c) (tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd) rhodder—“
(c) Y darpariaethau canlynol o Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd—
(i) Erthygl 78 a pharagraff II o Ran I o Atodiad VII (dosbarthu yn y lladd-dy);
(ii) Erthygl 78 a pharagraff III o Ran I o Atodiad VII (disgrifiadau gwerthu);
(iii) Erthygl 78 a pharagraff IV o Ran I o Atodiad VII (gwybodaeth orfodol ar y label);
(iv) Erthygl 78 a pharagraff V o Ran I o Atodiad VII (cofnodi).”.
(4) Yn rheoliad 4(2) (gwybodaeth sy’n ofynnol mewn perthynas â chig heb ei ragbecynnu) yn lle “paragraff IV(2) o Atodiad X1a i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007” rhodder “pwynt IV(2) o Ran I o Atodiad VII i Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
Diwygio Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010
4 

(1) Diwygir Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “yr Atodiad” (“the Annex”);
(b) yn y diffiniadau o “llaeth (“milk”) a “llaeth yfed” (“drinking milk”), yn lle “o’r Atodiad” rhodder “o Ran IV”.
(c) ar ôl y diffiniad o “llaeth yfed” mewnosoder—“
 ystyr “Rhan IV” (“Part IV”) yw Rhan IV o Atodiad VII i Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”.
(3) Yn rheoliad 2(2) (dehongli), ar ôl “Rheoliad y Cyngor”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “neu Ran IV”.
(4) Hepgorer rheoliad 2(3) (dehongli).
(5) Yn rheoliad 3 (gwerthu neu ddanfon llaeth a defnyddio disgrifiad gwerthu) yn lle “o’r Atodiad fel y’u darllenir ynghyd â phwynt III o’r Atodiad” rhodder “o Ran IV fel y’u darllenir ynghyd â phwynt III o Ran IV”.
(6) Hepgorer rheoliad 4 (mewnforio cynhyrchion o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd i’w gwerthu fel llaeth yfed).
(7) Yn rheoliad 5(3) (gorfodi), yn lle “neu’r Atodiad” rhodder “neu Ran IV”.
(8) Yn rheoliad 6 (tramgwyddau a chosbau), hepgorer “neu 4”.
Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010
5 

(1) Diwygir Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1) (dehongli), ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003” mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”.
(3) Yn rheoliad 3(3) (dehongli) yn lle “Rhan A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO” rhodder “Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.
(4) Yn rheoliad 3(5)(a) a (6)(a) (dehongli), ar ôl “Rheoliad Sengl CMO” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.
(5) Yn rheoliad 8 (cymhwyso Rhan 3)—
(a) ym mharagraffau (1) a (2)(a), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a
(b) ym mharagraff (2)(b), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran A o Atodiad XIV” rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran VI o Atodiad VII”.
(6) Yn rheoliad 11(1) a (2) (rhanddirymiadau sy’n ymwneud â marcio wyau), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.
(7) Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau UE ynglŷn ag wyau deor a chywion y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd)—
(a) yn y pennawd o dan “Rhan 1”, mewnosoder ar y diwedd “neu’r Rheoliad (EU) 2013”;
(b) ym mhenawdau colofnau 1 a 2, ar ôl “CMO” rhodder “neu’r Rheoliad (EU) 2013”;
(c) yng ngholofn 1, yn lle “Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf” rhodder “Erthygl 74 o Reoliad (EU) 2013”;
(d) yng ngholofn 1 ar ôl “Atodiad XIV”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “i’r Rheoliad Sengl CMO”.
(8) Yn Atodlen 2 (darpariaethau UE cyffredinol ynglŷn ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd)—
(a) yn lle Rhan 1 (darpariaethau’r Rheoliad Sengl CMO) rhodder—“
PART 1 DARPARIAETHAU RHEOLIAD (EU) 2013

Colofn 1Y ddarpariaeth berthnasol o Reoliad (EU) 2013 Colofn 2Darpariaethau i’w darllen gyda darpariaethau Rheoliad (EU) 2013 a grybwyllir yng ngholofn 1 Colofn 3Y pwnc
Erthygl 74 i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 Gwaharddiad ar farchnata wyau ac eithrio yn unol â’r safonau marchnata a osodir yn Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008.
Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII Erthygl 2(1) a (4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 Graddio ansawdd wyau dosbarth A (neu ffres) neu wyau dosbarth B.
Pwynt II(2) o Ran VI o Atodiad VII Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 Graddio pwysau wyau dosbarth A.
Pwynt II(3) o Ran VI o Atodiad VII  Gwaharddiad ar gyflenwi wyau dosbarth B ac eithrio i’r diwydiant bwyd a diwydiant nad yw’n ddiwydiant bwyd.
Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr is-baragraff cyntaf Erthyglau 9(1) ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 Marcio wyau dosbarth A.
Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail is-baragraff Erthyglau 9, 10 ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, paragraffau (a) a (b) o’r ail is-baragraff o bwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a rheoliad 11(1) Marcio wyau dosbarth B.
Pwynt III(2) o Ran VI o Atodiad VII Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 Y man lle caiff wyau eu marcio.
Pwynt III(3) o Ran VI o Atodiad VII, yr is-baragraff cyntaf Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII a’r ail is-baragraff o bwynt III(3) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a rheoliad 11(2) Marcio wyau a werthir gan gynhyrchydd i’r cwsmer terfynol mewn marchnad gyhoeddus leol.
Erthyglau 75(2) a (3) o Reoliad (EU) 2013 Erthygl 30(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan fo gwarantau digonol fod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â’r wyau hynny yn y drydedd wlad sydd dan sylw yn gyfwerth â deddfwriaeth UE.
Erthyglau 75(2) a (3) o Reoliad (EU) 2013 Erthyglau 11, 30(2) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan nad oes gwarantau digonol fod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â’r wyau hynny yn y drydedd wlad sydd dan sylw yn gyfwerth â deddfwriaeth UE.”
(b) yn y tabl yn Rhan 2 (darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) 589/2008)—
(i) yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt II(1) o Ran A o Atodiad XIV, y mewnoliad cyntaf, i’r Rheoliad Sengl CMO”, rhodder “Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII, y mewnoliad cyntaf, i Reoliad (EU) 2013”, ac yn lle “Pwynt II(1) o Ran A of Atodiad XIV, yr ail fewnoliad, i’r Rheoliad Sengl CMO”, rhodder “Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail fewnoliad, i Reoliad (EU) 2013” ;
(ii) yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt II(2) o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO” rhodder “Pwynt II(2) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;
(iii) yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr ail is-baragraff, i’r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Pwynt III(2) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail is-baragraff, i Reoliad (EU) 2013”;
(iv) mewn perthynas â’r cofnod ar gyfer Erthygl 30(3) yng ngholofn 2 hepgorer “pwynt IV(3) o Ran A o Atodiad XIV”;
(9) Yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 3 (rheolaethau cymunedol ynglŷn ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, mewn perthynas â Salmonella, y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd), yn lle “Erthyglau 113(3) a 116 o’r Rheoliad Sengl CMO a Rhan A o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “Erthygl 74 a Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.
Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009
6 

(1) Diwygir Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2) (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “rheolau marchnata’r UE” (“EU marketing rules”), yn lle “i Reoliad y Cyngor 1234/2007, ac sy’n cynnwys y rheolau sy’n ymwneud â’r safonau hynny a geir yn Erthyglau 113 ac 113a o Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “i Reoliad (EU) 2013, ac sy’n cynnwys y rheolau sy’n ymwneud â’r safonau hynny a geir yn Erthyglau 74, 75 a 76 o Reoliad (EU) 2013”;
(b) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 1234/2007” (“Council Regulation 1234/2007”);
(c) yn y diffiniad o “safon farchnata gyffredinol” (“general marketing standard”) yn lle “Erthygl 113a(1) o Reoliad 1234/2007” rhodder “Erthygl 76(1) o Reoliad (EU) 2013”;
(d) yn y diffiniad o “cynnyrch garddwriaethol” (“horticultural produce”), yn lle “Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Reoliad (EU) 2013”;
(e) ar ôl y diffiniad o “rheolau marchnata’r UE” (“EU marketing rules”) mewnosoder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”;
(f) yn y diffiniad o “safonau marchnata penodol” (“specific marketing standards”) yn lle “Erthygl 113(1)(b) o Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Erthygl 75(1)(b) o Reoliad (EU) 2013”.
(3) Yn rheoliad 2(3) (dehongli), yn lle “Rheoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Rheoliad (EU) 2013”.
Diwygio Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008
7 

(1) Diwygir Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yn lle “Erthygl 102(1) o Reoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 26(1) o Reoliad (EU) 2013”;
(b) yn y diffiniad o “cymorth gwladol” (“national aid”) yn lle “Erthygl 102(2) o Reoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 217 o Reoliad (EU) 2013”;
(c) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”);
(d) ar ôl y diffiniad o “y rheolau Cymunedol” (“the Community rules”) mewnosoder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”.
Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011
8 

(1) Diwygir Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) (cymhwyso’r Rheoliadau i gig dofednod)—
(a) yn lle “ym mhwynt I(1) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “ym mhwynt I o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a
(b) yn lle “o’r Rhan honno o’r Atodiad hwnnw i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl”.
(3) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn y diffiniad o “darpariaeth cig dofednod Ewropeaidd” (“European poultrymeat provision”), ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;
(ii) yn lle’r diffiniad o “cig dofednod” (“poultrymeat”) rhodder—“
 mae i “cig dofednod” (“poultrymeat”) yr ystyr a roddir i “poultrymeat” gan bwynt II(1) o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013;”; a
(iii) ar ôl y diffiniad o “y Rheoliad CMO Sengl” (“Single CMO Regulation”) mewnosoder y diffiniad canlynol—“
 ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”; a
(b) ym mharagraff (3), ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.
(4) Yn rheoliad 12 (pwerau swyddog awdurdodedig), yn lle “i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “i Reoliad (EU) 2013”.
(5) Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau cig dofednod Ewropeaidd – hysbysiadau cydymffurfio)—
(a) yn y pennawd o dan “Rhan 1”, ar ôl “CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;
(b) yn lle pennawd colofn 1, rhodder “Darpariaeth berthnasol o’r Rheoliad CMO Sengl neu Reoliad (EU) 2013”;
(c) ym mhennawd colofn 2, ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;
(d) yng ngholofn 1 o’r tabl, yn lle “Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf” rhodder “Erthygl 74 o Reoliad (EU) 2013”;
(e) yng ngholofn 2 o’r tabl, yn lle “Erthygl 116 o’r Rheoliad CMO Sengl a Rhan B o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “Erthygl 116 a Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rhan V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;
(f) yng ngholofn 3 o’r tabl, yn lle “Rhan B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rhan V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;
(g) yng ngholofn 1 o’r tabl, ar ôl “Pwynt III(1) o Ran B o Atodiad XIV” mewnosoder “i’r Rheoliad CMO Sengl”;
(h) yng ngholofn 1 o’r tabl, yn lle “Pwynt III(2) o Ran B o Atodiad XIV” rhodder “Pwynt III o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; ac
(i) yng ngholofn 2 o’r tabl yn lle “o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.
(6) Yn Rhan 2 o Atodlen 1 (darpariaethau Rheoliad y Comisiwn)—
(a) yng ngholofn 2 yn lle “Pwyntiau III(1) a (2) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Pwynt III(1) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a phwynt III o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a
(b) yn lle “Pwynt II(3) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Pwynt II(3) o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.
Diwygio Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008
9 

(1) Diwygir Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) Ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “manwerthu” (“sell by retail”), mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”
(b) ym mharagraff (2) ar ôl “Rheoliad y Cyngor”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.
(3) Yn rheoliad 6(2) (tramgwyddau a chosb am dorri unrhyw ddarpariaeth UE)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “gydag Atodiad XII i’r Rheoliad hwnnw” rhodder “gyda Rhan III o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;
(b) yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder “(i) pwyntiau 1, 3, 5 a 6 o Ran II a phwynt 2 o Ran IV o Atodiad XV i Reoliad y Cyngor”;
(c) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder “(ba) Erthyglau 75(1)(h) a 78(1) a (2) o Reoliad (EU) 2013 (diffiniadau, dynodiadau a disgrifiadau gwerthu sy’n gymwys i frasterau taenadwy) fel y’u darllenir gyda Rhan VII o Atodiad VII i’r Rheoliad hwnnw”.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
27 Rhagfyr 2013