
2013 Rhif 3138 (Cy. 311)
Tai, Cymru
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2013
Gwnaed 10 Rhagfyr 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Rhagfyr 2013
Yn dod i rym 29 Ionawr 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 30, a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2013 a deuant i rym ar 29 Ionawr 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996
2 

(1) Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (6).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y man priodol mewnosoder—“
 “armed forces independence payment” means armed forces independence payment under the Armed Forces and Reserve Forces (Compensation Scheme) Order 2011;”.
(3) Yn rheoliad 19 (trin taliadau gofal plant)—
(a) ar ôl paragraff (3)(d)(viii) mewnosoder—“
(ix) armed forces independence payment;”;
(b) hepgorer “or” ar ddiwedd paragraff (8)(b)(iii); ac
(c) ar ôl paragraff (8)(b)(iv) mewnosoder—“; or
(v) in respect of whom armed forces independence payment is payable.”
(4) Yn Atodlen 1 (symiau sy’n gymwys)—
(a) ym mharagraff 12(1)(a)(i) (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm pensiynwr uwch a’r premiwm anabledd), ar ôl “disability living allowance” mewnosoder “, armed forces independence payment”;
(b) ym mharagraff 13 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (2)(a)(i) ar ôl “section 78(3) of the 2012 Act” mewnosoder “or armed forces independence payment”;
(ii) yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “section 78(3) of the 2012 Act” mewnosoder “or armed forces independence payment”; a
(iii) ar ôl is-baragraff (5)(c) mewnosoder—“; or
(d) a person receiving armed forces independence payment”;
(c) ym mharagraff 13A (uwch bremiwm anabledd), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“; or
(d) armed forces independence payment is payable,”;
(d) ym mharagraff 14 (premiwm plentyn anabl) ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—“; or
(e) is a young person who is in receipt of armed forces independence payment”; ac
(e) ym mharagraff 15(2)(b) (premiwm gofalwr) ar ôl “section 78(3) of the 2012 Act” mewnosoder “or armed forces independence payment”.
(5) Yn Atodlen 1A (symiau sy’n gymwys ar gyfer personau sydd wedi cyrraedd yr oedran sy’n eu gwneud yn gymwys i gredyd pensiwn y wladwriaeth, neu y mae eu partner wedi cyrraedd yr oedran hwnnw)—
(a) ym mharagraff 7 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (2)(a)(i) ar ôl “section 78(3) of the 2012 Act” mewnosoder “or armed forces independence payment”;
(ii) yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “section 78(3) of the 2012 Act” mewnosoder “or armed forces independence payment”;
(iii) ar ôl is-baragraff (5)(c) mewnosoder—“or
(d) a person receiving armed forces independence payment”;
(b) ym mharagraff 8 (uwch bremiwm anabledd) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“or
(c) in respect of a young person, armed forces independence payment is payable,”;
(c) ym mharagraff 9 (premiwm plentyn anabl) ar ôl paragraff (9)(1)(d) mewnosoder—“; or
(e) is a young person in receipt of armed forces independence payment.”
(6) Yn Atodlen 3 (symiau sydd i’w diystyru wrth benderfynu incwm ac eithrio enillion), ym mharagraff 5, ar ôl “disability living allowance” mewnosoder “armed forces independence payment”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
10 Rhagfyr 2013