
2013 No. 3007 (Cy. 298)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Diogelwch Bwyd, Hylendid Bwyd a Rheolaethau Swyddogol (Hadau Egino) (Cymru) 2013
Gwnaed 27 Tachwedd 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Tachwedd 2013
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd ac mewn perthynas â’r meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Bwyd, Hylendid Bwyd a Rheolaethau Swyddogol (Hadau Egino) (Cymru) 2013.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004
2 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004, yn lle’r diffiniad o “Regulation (EC) No 178/2002” rhodder y diffiniad a ganlyn—“
 “Regulation (EC) No 178/2002” means Regulation (EC) No 178/2002 of the European Parliament and of the Council laying down the general principles and requirements of food law, establishing the European Food Safety Authority and laying down procedures in matters of food safety, as read with Commission Implementing Regulation (EU) No 931/2011 on the traceability requirements set by Regulation (EC) No 178/2002 of the European Parliament and of the Council for food of animal origin, and with Commission Implementing Regulation (EU) No 208/2013 on traceability requirements for sprouts and seeds intended for the production of sprouts .”.
Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
3 
Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE) i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad 852/2004” ychwaneger y geiriau “a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor”.
Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
4 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “y Darpariaethau Mewnforio” rhodder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004, Rheoliad 669/2009 a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio mewnforion egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin;”.
(3) Yn rheoliad 41 (tramgwyddau a chosbau), ar ôl paragraff (1) mewnosoder y paragraff a ganlyn fel paragraff (1A)—“
(1A) Bydd unrhyw berson sy’n mewnforio i Gymru neu’n rhoi ar y farchnad unrhyw egin neu hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer egino nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion ardystio Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio mewnforion egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin yn euog o dramgwydd.”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2013