
2013 No. 2948 (Cy. 291)
Datblygu Economaidd, Cymru
Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013
Gwnaed 20 Tachwedd 2013
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 194 o Ddeddf Cynllunio 2008, yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 194(5) o’r Ddeddf honno.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (Diwygio) (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru, a daw i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
Diwygio Atodlen 4 i Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975
2 

(1) Mae paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 (pŵer i wrth-wneud hawddfreintiau a hawliau eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—“
(1A) The use of any land which has been acquired by the Welsh Ministers under section 21A above, whether the use is by the Welsh Ministers or by a person deriving title under them, is authorised by virtue of this paragraph if it is in accordance with planning permission even if the use involves—
(a) interference with an interest or right to which this paragraph applies, or
(b) a breach of a restriction as to the user of land arising by virtue of a contract.”
(3) Yn is-baragraff (4)—
(a) ar ôl “sub-paragraph (1)” mewnosoder “or (1A)”, a
(b) ar ôl “works on” mewnosoder “, or use of,”.
(4) Yn is-baragraff (7) ar ôl “sub-paragraph (1)” mewnosoder “or (1A)”.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2013