
2013 Rhif. 2946 (Cy. 290)
Pysgodfeydd Môr, CymruPysgod Cregyn
Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Hafan Lydstep 2013
Made 18 Tachwedd 2013
Laid before the National Assembly for Wales 21 Tachwedd 2013
Coming into force 13 Rhagfyr 2013

Gwnaed cais i Weinidogion Cymru gan Pembrokeshire Seafarms Ltd (Rhif y Cwmni: 07587777) (“y Grantî”) am orchymyn sy’n rhoi’r hawl i bysgodfa unigol o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967(“y Ddeddf”).
Paratowyd Gorchymyn drafft gan Weinidogion Cymru a chyflwynwyd copi ohono i’r Grantî yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
Parodd y Grantî fod copïau printiedig o’r Gorchymyn drafft yn cael eu cyhoeddi a’u cylchredeg, a rhoddodd hysbysiad o’r cais yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.
Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i’r Gorchymyn gael ei wneud.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn y dylid gwneud y Gorchymyn canlynol yn awr.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 1 o’r Ddeddf ac sydd bellach wedi eu breinioynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgodfa Cregyn Gleision Hafan Lydstep 2013 a daw i rym ar 13 Rhagfyr 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “yr Ardal” (“the Area”) yw’r ardal o wely’r môr ger Hafan Lydstep, Sir Benfro, a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn;
 ystyr “y bysgodfa” (“the fishery”) yw’r hawl i bysgodfa unigol a grëir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn;
 ystyr “cragen las” (“mussel”) yw unrhyw bysgodyn cragen o’r math Mytilus edulis;
 ystyr “cyfesuryn” (“co-ordinate”) yw cyfesuryn lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984;
 mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “y Grantî” (“the Grantee”) yw Pembrokeshire Seafarms Ltd (Rhif y Cwmni: 07587777) sydd â’i swyddfa gofrestredig yn 91 New Road, Ynysmeudwy, Pontardawe, Abertawe, SA8 4PP neu pa bynnag berson arall sydd â hawl i’r bysgodfa am y tro; ac
 ystyr “ymgymerydd statudol” (“statutory undertaker”) yw unrhyw berson sydd, neu yr ystyrir ei fod, yn ymgymerydd statudol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o Ran 11 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Yr hawl i bysgodfa
3 
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, mae gan y Grantî yr hawl i bysgodfa unigol am gregyn gleision o fewn yr Ardal am gyfnod o 15 mlynedd sy’n dechrau ar 13 Rhagfyr 2013.
Marcio terfynau’r Ardal
4 
Rhaid i’r Grantî farcio terfynau’r Ardal ym mha bynnag fodd a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd, a rhaid iddo gynnal y marcwyr hynny yn eu lleoedd ac mewn cyflwr da.
Manylion Daliadau
5 

(1) Rhaid i’r Grantî gyflwyno i Weinidogion Cymru fanylion y daliadau—
(a) am y cyfnod o 13 Rhagfyr 2013 i 31 Mawrth 2014 ar 31 Gorffennaf 2014 neu cyn hynny; ac wedi hynny
(b) ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth ar 31 Gorffennaf neu cyn hynny yn y flwyddyn y mae’r cyfnod hwnnw’n dod i ben.
(2) Rhaid i fanylion daliadau at ddibenion paragraff (1) gofnodi—
(a) cyfanswm pwysau byw blynyddol y grawn cregyn gleision hynny a heuwyd yn y bysgodfa;
(b) lleoliad y ffynhonnell y daeth y grawn cregyn gleision hynny ohoni;
(c) cyfanswm pwysau byw blynyddol yr holl gregyn gleision hynny a gymerwyd o’r bysgodfa;
(d) lleoliad y man y cymerwyd y cregyn gleision hynny ohono; a
(e) pa bynnag wybodaeth bellach a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ac yr hysbysir y Grantî ohoni.
Cyfrifon o’r incwm a’r gwariant, gwybodaeth arall ac archwilio
6 

(1) Rhaid i’r Grantî roi i Weinidogion Cymru gyfrifon blynyddol o incwm a gwariant y Grantî o dan y Gorchymyn hwn.
(2) Heb leihau dim ar effaith paragraff (1), rhaid i’r Grantî gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir gan Weinidogion Cymru am wybodaeth mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn.
(3) Rhaid i’r Grantî ganiatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru archwilio’r Ardal a phob cyfrif a phob dogfen arall ym meddiant y Grantî ac sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn, a rhaid iddo roi i’r person hwnnw unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r materion hyn, y gofynnir amdani gan y person hwnnw.
Hawliau’r Goron
7 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n lleihau effaith unrhyw ystâd, hawl, pŵer, braint neu esemptiad y Goron, ac yn benodol, nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi’r Grantî i gymryd, i ddefnyddio neu i ymyrryd mewn unrhyw fodd ag unrhyw ran o lan neu wely’r môr neu lan neu wely unrhyw afon, sianel, cilfach, bae neu foryd neu unrhyw dir, hereditamentau, gwrthrychau neu hawliau o unrhyw ddisgrifiad sy’n eiddo i’w Mawrhydi drwy hawl ei Choron ac o dan reolaeth Comisiynwyr Ystad y Goron.
Hawliau ymgymerwyr statudol
8 
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy’n lleihau effaith unrhyw swyddogaethau statudol a arferir gan ymgymerydd statudol.
Aseinio
9 
Ni chaiff y Grantî, heb ganiatâd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, aseinio’r hawl hwn i bysgodfa, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ffordd arall, i unrhyw berson arall.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2013
YR ATODLEN
DISGRIFIAD O’R ARDAL
Erthygl 2

Yr ardal ger Hafan Lydstep, Sir Benfro, sy’n ymestyn i tua 168.4 hectar, ac sydd oddi mewn i linell sy’n cysylltu’r cyfesurynnau a rifwyd 1 i 15 yn y tabl isod.

Pwynt Lledred Hydred
1 51.65192433 -4.75045881
2 51.65175551 -4.74215006
3 51.65039301 -4.72615546
4 51.64422322 -4.72615158
5 51.64175708 -4.72756911
6 51.63935718 -4.72199540
7 51.63935719 -4.74829837
8 51.64224522 -4.74829832
9 51.64224521 -4.73784891
10 51.64460902 -4.73272833
11 51.64917244 -4.73896288
12 51.64839502 -4.74477764
13 51.64610147 -4.74480989
14 51.64611910 -4.75363655
15 51.64770128 -4.75509229
