
2013 Rhif 2918 (Cy. 286)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 13 Tachwedd 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Tachwedd 2013
Yn dod i rym 12 Rhagfyr 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11, 203(9) a (10) a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraffau 11 a 12 o Atodlen 2 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) (Diwygio) 2013 a daw i rym ar 12 Rhagfyr 2013.
Diwygio Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009
2 
Mae Atodlen 1 i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (enwau byrddau iechyd lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y sefydlir hwy ar eu cyfer) wedi ei diwygio fel a ganlyn:
(a) yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan” (“Aneurin Bevan Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan” (“Aneurin Bevan University Local Health Board”);
(b) yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” (“Cwm Taf Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf” (“Cwm Taf University Local Health Board”); ac
(c) yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda” (“Hywel Dda Local Health Board”) rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda” (“Hywel Dda University Local Health Board”).
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Tachwedd 2013