
2013 Rhif 2901 (Cy. 280)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013
Gwnaed 12 Tachwedd 2013
Yn dod i rym 5 Rhagfyr 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 9, 24, 25, 26, 27, 28, 29 a 172 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Yn unol ag adran 172 o’r Mesur hwnnw, cafodd drafft o’r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Rhagfyr 2013.
Dehongli’n Gyffredinol
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “geni’r plentyn” (“childbirth”) yw geni plentyn byw neu eni plentyn p’un a yw’n fyw neu’n farw ar ôl 24 o wythnosau o feichiogrwydd;
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;
 ystyr “partner” (“partner”) yw un o gwpl sy’n cyd-fyw, p’un a yw’n gwpl o’r un rhyw neu o’r ddau ryw; ac
 ystyr “yr wythnos y disgwylir geni’r plentyn” (“expected week of childbirth”) yw’r wythnos, gan ddechrau am hanner nos rhwng dydd Sadwrn a dydd Sul, pan ddisgwylir geni’r plentyn.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “gadeirydd yr awdurdod lleol” (“chair of the local authority”) yn gyfeiriad at berson a etholwyd yn gadeirydd gan yr awdurdod lleol hwnnw o dan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “aelod” (“a member”) yn gyfeiriad at aelod o awdurdod lleol yng Nghymru.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “aelod llywyddol awdurdod lleol” (“a presiding member of a local authority”) yn gyfeiriad at berson a etholwyd yn aelod llywyddol gan yr awdurdod lleol hwnnw o dan adran 24A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
RHAN 1 Absenoldeb mamolaeth
Amodau rhagnodedig
3 
At ddibenion adran 24(1) o’r Mesur, yr amodau rhagnodedig yw—
(a) bod yr aelod, heb fod yn hwyrach na diwedd 15 o wythnosau cyn yr wythnos y disgwylir geni’r plentyn, neu, os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r canlynol—
(i) bod yr aelod yn feichiog;
(ii) yr wythnos y disgwylir geni’r plentyn;
(iii) y dyddiad y mae’r aelod yn bwriadu i’r absenoldeb mamolaeth ddechrau; a
(iv) hyd y cyfnod o absenoldeb mamolaeth y mae’r aelod yn bwriadu ei gymryd, os yw’n llai na 26 o wythnosau;
(b) bod yr aelod, os cafodd gais i wneud hynny gan y pennaeth gwasanaethau democrataidd, wedi darparu i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd dystysgrif gan ymarferydd meddygol cofrestredig neu fydwraig gofrestredig yn datgan yr wythnos y disgwylir geni’r plentyn;
(c) pan fo’r aelod yn dymuno amrywio dechrau’r absenoldeb mamolaeth sydd wedi ei bennu o dan baragraff (a)(iii), bod yr aelod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r dyddiad dechrau newydd o leiaf un wythnos cyn y dyddiad a bennwyd o dan baragraff (a)(iii), neu o leiaf un wythnos cyn y dyddiad newydd, pa un bynnag sydd gynharaf, neu, os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; a
(d) pan fo’r aelod yn dymuno amrywio hyd yr absenoldeb mamolaeth, bod yr aelod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r hyd newydd o leiaf un wythnos cyn diwedd y cyfnod o absenoldeb a ddisgwylir yn unol â’r hyd a bennwyd o dan baragraff (a)(iv), neu o leiaf un wythnos cyn diwedd arfaethedig newydd y cyfnod o absenoldeb, pa un bynnag sydd gynharaf, neu os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Y cyfnod o absenoldeb mamolaeth
4 
Y cyfnod o absenoldeb mamolaeth yw 26 o wythnosau, oni bai bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 3(a)(iv), (d) neu 7 y bydd y cyfnod o absenoldeb mamolaeth yn llai na 26 o wythnosau.
Pryd y caniateir cymryd absenoldeb mamolaeth
5 
Ni chaniateir cymryd absenoldeb mamolaeth ond os yw’n cael ei gymryd fel ei fod yn dechrau yn ystod y cyfnod—
(a) sy’n dechrau ar ddechrau’r unfed wythnos ar ddeg cyn yr wythnos y disgwylir geni’r plentyn; a
(b) sy’n dod i ben ar y diwrnod ar ôl diwrnod geni’r plentyn.
Aelod i ddewis dyddiad dechrau’r absenoldeb mamolaeth
6 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) a rheoliad 5, caiff aelod ddewis y dyddiad pryd y bydd ei absenoldeb mamolaeth i ddechrau.
(2) Pan fo aelod, yn ystod y cyfnod o bedair wythnos cyn dechrau’r wythnos y disgwylir geni’r plentyn, yn absennol o un o gyfarfodydd yr awdurdod am reswm sy’n ymwneud yn llwyr neu’n rhannol â beichiogrwydd, mae’r cyfnod o absenoldeb mamolaeth yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y cyfarfod y mae’r aelod yn absennol ohono.
(3) Pan nad yw absenoldeb mamolaeth aelod wedi dechrau yn unol â’r dyddiad a hysbyswyd gan aelod o dan reoliad 3(a)(iii) ar adeg geni’r plentyn, mae absenoldeb mamolaeth yr aelod hwnnw yn dechrau ar y diwrnod ar ôl diwrnod geni’r plentyn.
(4) Nid yw Rheoliadau 3(a)(ii), (iii) a (b) yn gymwys o ran aelod y mae ei absenoldeb yn dechrau yn rhinwedd paragraff (3).
Terfynu cyfnod o absenoldeb mamolaeth
7 
Caiff aelod derfynu cyfnod o absenoldeb mamolaeth yn gynharach na diwedd y cyfnod a nodwyd yn rheoliad 4, a hysbyswyd o dan reoliad 3(a)(iv) neu a amrywiwyd o dan reoliad 3(d) drwy hysbysu’r pennaeth gwasanaethau democrataidd yn ysgrifenedig o’i fwriad i wneud hynny o leiaf 7 niwrnod cyn iddo ddychwelyd.
Diddymu absenoldeb mamolaeth
8 
Caiff aelod ddiddymu cyfnod o absenoldeb mamolaeth o dan yr amgylchiadau canlynol—
(a) nid yw’r cyfnod o absenoldeb mamolaeth wedi dechrau hyd yn hyn; a
(b) mae’r aelod wedi hysbysu’r pennaeth gwasanaethau democrataidd yn ysgrifenedig o’i fwriad i ddiddymu’r absenoldeb.
RHAN 2 Absenoldeb newydd-anedig
Amodau rhagnodedig
9 

(1) At ddibenion adran 25(1) o’r Mesur, yr amodau rhagnodedig yw bod yr aelod—
(a) naill ai—
(i) yn dad i’r plentyn ac yn gyfrifol am fagu’r plentyn, neu’n disgwyl bod â chyfrifoldeb o’r fath; neu
(ii) yn briod â mam y plentyn, yn bartner sifil iddi neu’n bartner iddi, ond heb fod yn dad i’r plentyn, ac yn bennaf gyfrifol (heblaw am unrhyw gyfrifoldeb ar y fam) am fagu’r plentyn, neu’n disgwyl bod â chyfrifoldeb o’r fath; a
(b) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r dyddiad y mae’r aelod yn bwriadu i’r cyfnod o absenoldeb newydd-anedig ddechrau.
(2) Mae aelod i’w drin fel pe bai’n bodloni’r amod ym mharagraff (1)(a)(ii) pe bai’r aelod hwnnw wedi bodloni’r amod heblaw am y ffaith bod mam y plentyn wedi marw.
(3) Mae aelod i’w drin fel pe bai’n bodloni’r naill amod neu’r llall ym mharagraff (1)(a) pe bai wedi bodloni’r amod heblaw am y ffaith bod y plentyn yn farw-anedig ar ôl 24 o wythnosau o feichiogrwydd neu wedi marw.
Rhychwant yr hawl i absenoldeb newydd-anedig
10 

(1) Mae gan aelod hawl i ddwy wythnos olynol o absenoldeb newydd-anedig.
(2) Pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei eni o ganlyniad i’r un beichiogrwydd, nid oes gan aelod yr hawl i absenoldeb newydd-anedig ond mewn perthynas â’r plentyn cyntaf-anedig.
Pryd y caniateir cymryd absenoldeb newydd-anedig
11 
Ni chaniateir cymryd absenoldeb newydd-anedig ond os yw’n cael ei gymryd yn ystod y cyfnod—
(a) sy’n dechrau ar ddyddiad geni’r plentyn; a
(b) sy’n dod i ben 56 o ddyddiau ar ôl y dyddiad hwnnw.
Diddymu absenoldeb newydd-anedig
12 
Caiff aelod ddiddymu cyfnod o absenoldeb newydd-anedig o dan yr amgylchiadau canlynol—
(a) nid yw’r cyfnod o absenoldeb newydd-anedig wedi dechrau hyd yn hyn; a
(b) mae’r aelod wedi hysbysu’r pennaeth gwasanaethau democrataidd yn ysgrifenedig o’i fwriad i ddiddymu’r absenoldeb.
Aelod i ddewis dyddiad dechrau’r absenoldeb newydd-anedig
13 
Ar yr amod y bydd y cyfnod o absenoldeb newydd-anedig yn dod i ben o fewn y cyfnod a ragnodir gan reoliad 11, caiff aelod ddewis ar ba ddyddiad y bydd ei absenoldeb newydd-anedig yn dechrau.
RHAN 3 Absenoldeb mabwysiadydd
Amodau rhagnodedig
14 
At ddibenion adran 26(1) o’r Mesur, yr amodau rhagnodedig yw bod yr aelod—
(a) yn fabwysiadydd i’r plentyn; a
(b) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r dyddiad y mae’r aelod yn bwriadu i’r cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd ddechrau.
Rhychwant yr hawl i absenoldeb mabwysiadydd
15 
Mae gan aelod hawl i ddwy wythnos olynol o absenoldeb mabwysiadydd.
Pryd y caniateir cymryd absenoldeb mabwysiadydd
16 
Ni chaniateir cymryd absenoldeb mabwysiadydd ond os yw’n cael ei gymryd yn ystod y cyfnod—
(a) sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r plentyn yn cael ei leoli gyda’r aelod ar gyfer ei fabwysiadu; a
(b) sy’n dod i ben 56 o ddyddiau ar ôl y dyddiad hwnnw.
Aelod i ddewis dyddiad dechrau’r absenoldeb mabwysiadydd
17 
Ar yr amod y bydd y cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yn dod i ben o fewn y cyfnod a ragnodir gan reoliad 16, caiff aelod ddewis ar ba ddyddiad y bydd ei absenoldeb mabwysiadydd yn dechrau.
Diddymu absenoldeb mabwysiadydd
18 
Caiff aelod ddiddymu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd o dan yr amgylchiadau canlynol—
(a) nid yw’r cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd wedi dechrau hyd yn hyn; a
(b) mae’r aelod wedi hysbysu’r pennaeth gwasanaethau democrataidd yn ysgrifenedig o’i fwriad i ddiddymu’r absenoldeb.
Dehongli’r Rhan hon
19 

(1) Yn y Rhan hon—
 ystyr “asiantaeth fabwysiadu” (“adoption agency”) yw corff y caniateir cyfeirio ato fel asiantaeth fabwysiadu yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
 ystyr “mabwysiadydd” (“adopter”), mewn perthynas â phlentyn, yw aelod sydd wedi ei baru â phlentyn ar gyfer ei fabwysiadu, neu mewn achos pan fo dau aelod wedi eu paru ar y cyd, pa un bynnag ohonynt sydd wedi dewis bod yn fabwysiadydd y plentyn at ddibenion y Rhan hon; ac
 ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan ddeunaw mlwydd oed, neu a oedd o dan yr oedran hwnnw pan gafodd ei leoli gyda mabwysiadydd ar gyfer ei fabwysiadu.
(2) At ddibenion y Rhan hon mae aelod wedi ei baru â phlentyn ar gyfer ei fabwysiadu pan fo asiantaeth fabwysiadu yn hysbysu’r aelod hwnnw o’i phenderfyniad bod yr aelod yn rhiant mabwysiadol addas ar gyfer y plentyn, p’un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall.
RHAN 4 Absenoldeb mabwysiadu newydd
Amodau rhagnodedig
20 
At ddibenion adran 27(1) o’r Mesur, yr amodau rhagnodedig yw bod yr aelod—
(a) yn briod â mabwysiadydd y plentyn, yn bartner sifil i’r mabwysiadydd neu’n bartner i’r mabwysiadydd;
(b) yn bennaf gyfrifol (heblaw am gyfrifoldeb y mabwysiadydd) am fagu’r plentyn, neu’n disgwyl bod â chyfrifoldeb o’r fath; ac
(c) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r dyddiad y mae’r aelod yn bwriadu i’r cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd ddechrau.
Rhychwant yr hawl i absenoldeb mabwysiadu newydd
21 

(1) Mae gan aelod hawl i ddwy wythnos olynol o absenoldeb mabwysiadu newydd.
(2) Pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei leoli gyda’r aelod fel rhan o’r un trefniant, nid oes gan aelod yr hawl i absenoldeb mabwysiadu newydd ond mewn perthynas â’r plentyn cyntaf a leolir gyda’r aelod ar gyfer ei fabwysiadu.
Pryd y caniateir cymryd absenoldeb mabwysiadu newydd
22 
Ni chaniateir cymryd absenoldeb mabwysiadu newydd ond os yw’n cael ei gymryd yn ystod y cyfnod—
(a) sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r plentyn yn cael ei leoli gyda mabwysiadydd y plentyn; a
(b) sy’n dod i ben 56 o ddyddiau ar ôl y dyddiad hwnnw.
Diddymu absenoldeb mabwysiadu newydd
23 
Caiff aelod ddiddymu cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd o dan yr amgylchiadau canlynol—
(a) nid yw’r cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd wedi dechrau hyd yn hyn; a
(b) mae’r aelod wedi hysbysu’r pennaeth gwasanaethau democrataidd yn ysgrifenedig o’i fwriad i ddiddymu’r absenoldeb.
Aelod i ddewis dyddiad dechrau’r absenoldeb mabwysiadu newydd
24 
Ar yr amod y bydd y cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd yn dod i ben o fewn y cyfnod a ragnodir gan reoliad 22, caiff aelod ddewis ar ba ddyddiad y bydd ei absenoldeb mabwysiadu newydd yn dechrau.
Dehongli’r Rhan hon
25 

(1) Yn y Rhan hon—
 ystyr “asiantaeth fabwysiadu” (“adoption agency”) yw corff y caniateir cyfeirio ato fel asiantaeth fabwysiadu yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
 ystyr “mabwysiadydd” (“adopter”), mewn perthynas â phlentyn, yw person sydd wedi ei baru â phlentyn ar gyfer ei fabwysiadu, neu mewn achos pan fo dau o bobl wedi eu paru ar y cyd, pa un bynnag ohonynt sydd wedi dewis bod yn fabwysiadydd y plentyn at ddibenion Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn; ac
 ystyr “plentyn” (“child”) yw person sydd o dan ddeunaw mlwydd oed, neu a oedd o dan yr oedran hwnnw pan gafodd ei leoli gyda mabwysiadydd ar gyfer ei fabwysiadu.
(2) At ddibenion y Rhan hon mae person wedi ei baru â phlentyn ar gyfer ei fabwysiadu pan fo asiantaeth fabwysiadu yn penderfynu y byddai’r person hwnnw’n rhiant mabwysiadol addas ar gyfer y plentyn, p’un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall.
RHAN 5 Absenoldeb rhiant
Amodau rhagnodedig
26 
At ddibenion adran 28(1) o’r Mesur, yr amodau rhagnodedig yw—
(a) na allai’r aelod fodloni’r amodau rhagnodedig o dan Rannau 2 i 4 o’r Rheoliadau hyn;
(b) bod yr aelod yn gyfrifol am ofalu am y plentyn, neu’n disgwyl cael cyfrifoldeb o’r fath;
(c) bod yr aelod yn darparu hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r canlynol—
(i) ei fwriad i gymryd absenoldeb rhiant;
(ii) y dyddiad y mae’r aelod yn bwriadu i’r absenoldeb rhiant ddechrau;
(iii) hyd yr absenoldeb rhiant arfaethedig; a
(iv) a fwriedir i’r absenoldeb gael ei gymryd fel un cyfnod o absenoldeb neu fel cyfres o absenoldebau;
(d) bod yr aelod, os cafodd gais i wneud hynny gan y pennaeth gwasanaethau democrataidd, wedi darparu tystiolaeth i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd ynglŷn â rhychwant y cyfrifoldeb am y plentyn; ac
(e) bod yr aelod, pan fo’r absenoldeb rhiant i’w gymryd fel cyfres o absenoldebau, yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig ymlaen llaw i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r dyddiad dechrau arfaethedig a hyd arfaethedig pob cyfnod o absenoldeb rhiant.
Rhychwant yr hawl i absenoldeb rhiant
27 

(1) Mae gan aelod hawl i dri mis o absenoldeb rhiant.
(2) Caniateir cymryd absenoldeb rhiant fel cyfres o gyfnodau o absenoldeb neu fel un cyfnod.
Pryd y caniateir cymryd absenoldeb rhiant
28 
Ni chaniateir cymryd absenoldeb ond os yw’n cael ei gymryd yn ystod y cyfnod—
(a) sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r aelod yn ysgwyddo cyfrifoldeb am ofalu am blentyn o dan 14 mlwydd oed; a
(b) sy’n dod i ben un flwyddyn wedi hynny.
Terfynu cyfnod o absenoldeb rhiant
29 
Caiff aelod derfynu unrhyw gyfnod o absenoldeb rhiant yn gynharach na’r hyn a hysbyswyd o dan reoliad 26(c)(iii) drwy hysbysu’r pennaeth gwasanaethau democrataidd yn ysgrifenedig o’i fwriad i derfynu’r cyfnod o absenoldeb rhiant.
Diddymu cyfnod o absenoldeb rhiant
30 
Caiff aelod ddiddymu cyfnod o absenoldeb rhiant o dan yr amgylchiadau canlynol—
(a) nid yw’r cyfnod o absenoldeb rhiant wedi dechrau hyd yn hyn; a
(b) mae’r aelod wedi hysbysu’r pennaeth gwasanaethau democrataidd yn ysgrifenedig o’i fwriad i ddiddymu’r cyfnod o absenoldeb rhiant.
Aelod i ddewis dyddiad dechrau’r absenoldeb rhiant
31 
Ar yr amod bod y dyddiad o fewn y cyfnod a ragnodir gan reoliad 28, caiff aelod ddewis y dyddiad pryd y bydd unrhyw gyfnod o absenoldeb rhiant i ddechrau.
RHAN 6 Cyffredinol
Cadw cofnodion
32 

(1) Rhaid i bennaeth gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol gadw cofnod o’r canlynol—
(a) yr holl hysbysiadau gan aelodau o’r awdurdod lleol hwnnw o gyfnodau o absenoldeb teuluol; a
(b) yr holl gyfnodau o absenoldeb teuluol a gymerwyd gan aelodau o’r awdurdod lleol hwnnw.
(2) Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod a wneir o dan baragraff (1) am o leiaf 10 mlynedd ar ôl y dyddiad y’i gwneir.
Dyletswydd i hysbysu
33 

(1) Ar ôl i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd gael ei hysbysu yn unol â Rhannau 1 i 5 o’r Rheoliadau bod aelod yn cymryd cyfnod o absenoldeb teuluol, rhaid i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd roi gwybod i bob person perthnasol am y ffaith honno cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw —
(a) cadeirydd yr awdurdod lleol, neu pan fo awdurdod lleol wedi ethol aelod llywyddol, aelod llywyddol yr awdurdod lleol hwnnw;
(b) cadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yr awdurdod lleol; ac
(c) arweinydd pob un o grwpiau gwleidyddol yr awdurdod lleol.
Diddymu absenoldeb teuluol gan awdurdod lleol
34 

(1) Pan fo gan y pennaeth gwasanaethau democrataidd sail resymol i amau nad oes gan aelod, sydd wedi darparu hysbysiad ei fod yn cymryd cyfnod o absenoldeb teuluol, yr hawl i’r absenoldeb teuluol hwnnw, rhaid i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd hysbysu’r awdurdod lleol a darparu’r holl wybodaeth berthnasol.
(2) Pan nad oes gan aelod yr hawl i gyfnod o absenoldeb teuluol, yn dilyn cael gwybodaeth o dan baragraff (1), caiff awdurdod lleol ddiddymu cyfnod o absenoldeb teuluol aelod cyn iddo ddechrau neu derfynu cyfnod o absenoldeb teuluol.
(3) Pan fo awdurdod lleol yn arfer ei bŵer o dan baragraff (2), rhaid i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd ar gyfer yr awdurdod hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod yn nodi—
(a) y penderfyniad i ddiddymu neu derfynu cyfnod o absenoldeb teuluol; a
(b) y dyddiad y mae’n rhaid i’r aelod ddychwelyd o’r cyfnod o absenoldeb teuluol.
(4) Pan fo aelod wedi methu â dychwelyd o gyfnod o absenoldeb teuluol ar y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad a ddarparwyd o dan baragraff (3), caiff awdurdod lleol atal tâl yr aelod hwnnw.
Cwynion
35 

(1) Caiff aelod gyflwyno cwyn ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd ynglŷn â phenderfyniad a wnaed o dan reoliad 34(2).
(2) Rhaid i gŵyn ddod i law’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr hysbyswyd yr aelod o dan reoliad 34(3) o benderfyniad awdurdod lleol o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw.
(3) Rhaid i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd atgyfeirio unrhyw gŵyn a gafwyd o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2) i gadeirydd yr awdurdod lleol neu pan fo awdurdod lleol wedi ethol aelod llywyddol, i’r aelod llywyddol.
Y panel
36 

(1) Rhaid i’r awdurdod lleol benodi panel i benderfynu ar gŵyn a wnaed o dan reoliad 35.
(2) Rhaid i’r panel gynnwys tri aelod a benodir gan yr awdurdod lleol.
(3) Ni chaniateir penodi cadeirydd yr awdurdod lleol nac aelod llywyddol awdurdod lleol i’r panel.
(4) Caiff y panel—
(a) cadarnhau penderfyniad awdurdod lleol a wnaed o dan reoliad 34(2); neu
(b) amnewid penderfyniad ei hun o ran hawl aelod i gyfnod o absenoldeb teuluol yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(5) Mae penderfyniad y panel yn derfynol.
Rheolau sefydlog
37 
Rhaid i awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, wneud rheolau sefydlog sy’n sicrhau’r gofynion a nodir yn rheoliad 38.
38 

(1) Caiff aelod sydd ar absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb rhiant, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (6),—
(a) bod yn bresennol mewn cyfarfodydd penodol;
(b) bod yn bresennol mewn cyfarfodydd o ddisgrifiadau penodol;
(c) cyflawni dyletswyddau penodol; neu
(d) cyflawni dyletswyddau o ddisgrifiad penodol.
(2) Rhaid i’r aelod gael caniatâd cadeirydd yr awdurdod lleol, neu pan fo awdurdod lleol wedi ethol aelod llywyddol, yr aelod llywyddol, cyn bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod neu gyflawni unrhyw ddyletswydd.
(3) Rhaid i gadeirydd yr awdurdod lleol, neu pan fo awdurdod lleol wedi ethol aelod llywyddol, yr aelod llywyddol, hysbysu arweinyddion pob un o grwpiau gwleidyddol yr awdurdod lleol cyn rhoi caniatâd o dan baragraff (2).
(4) Caiff aelod gyflwyno cwyn ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd ynglŷn â gwrthodiad o dan baragraff (2).
(5) Rhaid i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd atgyfeirio cwyn o dan baragraff (4) i gadeirydd yr awdurdod lleol, neu pan fo awdurdod lleol wedi ethol aelod llywyddol, i’r aelod llywyddol.
(6) Rhaid i banel a gyfansoddir yn unol â’r Rheoliadau hyn benderfynu ar gŵyn a wnaed o dan baragraff (4).
(7) Caiff y panel—
(a) cadarnhau penderfyniad cadeirydd yr awdurdod lleol, neu pan fo awdurdod lleol wedi ethol aelod llywyddol, penderfyniad yr aelod llywyddol, a wnaed o dan baragraff (2); neu
(b) amnewid penderfyniad ei hun o ran aelod yn bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod neu’n cyflawni unrhyw ddyletswydd.
39 
Rhaid i awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, wneud darpariaeth mewn rheolau sefydlog ynglŷn â rhychwant y dyletswyddau, os oes rhai, sy’n parhau i fod yn gymwys i aelodau yn ystod cyfnod o absenoldeb teuluol.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2013