
2013 Rhif 2843 (Cy. 270)
Arbed Ynni, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 31 Hydref 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Tachwedd 2013
Yn dod i rym 30 Tachwedd 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990, sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Tachwedd 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011.
Diwygio’r prif Reoliadau
2 
Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
Diwygio rheoliad 2 (dehongli)
3 
Mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(1) Yn lle’r diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar prawf modd” (“means-tested benefit”) rhodder—“
 ystyr “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd” (“means-tested benefit”) yw—
(a) cymhorthdal incwm a budd-dal tai (pob un fel y diffinnir “income support” a “housing benefit” yn ôl eu trefn yn Rhan VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992);
(b) cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor (fel y diffinnir “council tax reduction scheme” yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992);
(c) credyd pensiwn y wladwriaeth (fel y diffinnir “state pension credit” yn Neddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002);
(d) credyd treth gwaith a chredyd treth plant (fel y diffinnir “working tax credit” a “child tax credit” yn ôl eu trefn yn Neddf Credydau Treth 2002) cyn belled ag nad yw incwm y ceisydd yn y naill achos na’r llall yn uwch na’r trothwy incwm perthnasol;
(e) lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm (fel y diffinnir “income-related employment and support allowance” yn Neddf Diwygio Lles 2007); ac
(f) credyd cynhwysol (fel y diffinnir “universal credit” yn Neddf Diwygio Lles 2012);”
(2) Yn y diffiniad o “meddiannaeth breifat” (“private occupancy”) hepgorer “(gan gynnwys o dan drefniadau ecwiti a rennir)”.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
31 Hydref 2013