
2013 Rhif 2731 (Cy. 265)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 23 Hydref 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Hydref 2013
Yn dod i rym 15 Tachwedd 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 457(4)(b)(ai) a 569 o Ddeddf Addysg 1996, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 15 Tachwedd 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn–—“
 ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003.”.
Diwygio
2 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2003 (dehongli) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012;”.
3 
Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau 2003 mewnosoder—“
Amgylchiadau rhagnodedig: cael credyd cynhwysol
6. 
Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 457(4)(b)(ai) o Ddeddf 1996 yw bod rhiant y disgybl yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 15 Tachwedd 2013.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2013