Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle’r OS sy’n dwyn yr un teitl ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y mae’n hysbys ei fod wedi cael yr Offeryn Statudol hwnnw gan fod y fersiwn wreiddiol wedi ei hargraffu â’r rhif anghywir.
2013 Rhif 2723 (Cy. 261)
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013
Gwnaed 22 Hydref 2013
Yn dod i rym 30 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 6(2) a 8(1) o Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (“y Mesur”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013.
(2) Daw i rym ar 30 Ebrill 2014.
Dosbarthiadau o fangreoedd preswyl
2 

(1) Mae adran 6(1) o’r Mesur wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y mannau priodol mewnosoder—“
 mae i “fflat” (“flat”) yr ystyr a roddir i “flat” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 2010”;“
 mae i “tŷ annedd” (“dwelling-house”) yr ystyr a roddir i “dwelling-house” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 2010”;
(3) Yn y diffiniad o “preswylfa”—
(a) yn lle paragraffau (d) ac (e) rhodder—“
(d) neuadd breswyl;
(e) ystafell neu gyfres o ystafelloedd, nad yw’n dŷ annedd nac yn fflat ac sy’n cael ei defnyddio gan un neu fwy o bersonau i fyw a chysgu ynddi ac sy’n cynnwys ystafell mewn hostel neu dŷ preswyl, ond nid yw’n cynnwys—
(i) ystafell mewn gwesty;
(ii) ystafell mewn hostel sy’n cael ei darparu fel llety dros dro i’r rhai hynny sy’n preswylio fel arfer yn rhywle arall;
(iii) ystafell mewn ysbyty neu sefydliad tebyg arall sy’n cael ei defnyddio fel llety i gleifion;
(iv) ystafelloedd mewn carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc;
(v) mangre ar gyfer lletya personau sydd wedi eu remandio ar fechnïaeth;
(vi) mangre ar gyfer lletya personau y gall fod yn ofynnol iddynt, drwy orchymyn prawf breswylio yno, neu”
(b) mewnosoder ar ôl paragraff (e)—“
(f) cartref plant, pan fo gan “cartref plant” yr ystyr a roddir i “children’s home” yn adran 1 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ond nid yw’n cynnwys—
(i) sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y’i diffiniwyd gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
(ii) sefydliad a ddefnyddir i letya plant at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn yn unig—(aa) gwyliau;(bb) gweithgaredd hamdden, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;ar yr amod nad oes dim un plentyn yn cael ei letya yno am fwy na 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis;
(iii) sefydliad troseddwyr ifanc, a”
Carl Sargeant
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2013