
2013 Rhif 2617 (Cy. 256) (C. 104)
Bwyd, Cymru
Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2013
Gwnaed 11 Hydref 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau yn adran 27(2) o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 1) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 28 Hydref 2013
2 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym at ddiben gwneud rheoliadau yw 28 Hydref 2013—
(a) adran 3(2), (3)(c) a (d) a (5);
(b) adran 5(4) a (10)(d);
(c) adran 6(2) a (3);
(d) adran 7(3) a (4);
(e) adran 12(2) a (9)(d); ac
(f) adran 15(1).
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 28 Tachwedd 2013
3 
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym yw 28 Tachwedd 2013.
(a) adran 1;
(b) adran 2, ac eithrio paragraff (b) o is-adran (5);
(c) adran 3, at y dibenion sy’n weddill;
(d) adran 4;
(e) adrannau 5, 6 a 7, at y dibenion sy’n weddill;
(f) adrannau 8 i 11;
(g) adran 12, at y dibenion sy’n weddill;
(h) adrannau 13 a 14;
(i) adran 15, at y dibenion sy’n weddill;
(j) adrannau 16 i 26;
(k) adran 28; ac
(l) yr Atodlen.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Hydref 2013