
2013 Rhif 2535 (Cy. 250)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 1 Hydref 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 4 Hydref 2013
Yn dod i rym 1 Ionawr 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94, 95 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) dileer y diffiniad o “Deddf 1972”;
(b) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “Cod Derbyniadau Ysgol” (“School Admissions Code”) yw unrhyw god ar gyfer derbyniadau ysgol a ddyroddir o dan adran 84;”;“
 ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;”.
(3) Yn lle rheoliad 6 rhodder—“
Ystyriaethau perthnasol mewn apelau sy’n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf 1998
6. 

(1) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan y trefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) i (ch), rhaid i’r materion i’w hystyried gan banel apêl wrth ystyried apêl gynnwys—
(a) unrhyw hoff ddewis a fynegir gan yr apelydd; a
(b) y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion a gyhoeddir gan yr awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 92.
(2) Y trefniadau derbyn y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw’r trefniadau a gyhoeddir pan fynegwyd unrhyw hoff ddewis gan yr apelydd.
(3) Caiff ystyriaeth o’r mater a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) gynnwys ystyried a yw’r trefniadau hynny yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion gorfodol—
(i) Cod Derbyniadau Ysgol, neu
(ii) Rhan 3 o Ddeddf 1998.
(4) Pan wnaed penderfyniad ar y sail y byddai rhagfarn o’r math y cyfeirir ati yn adran 86(3)(a) yn codi fel a grybwyllir yn is-adran (4) o’r adran honno, caiff panel apêl benderfynu bod lle i’w gynnig i blentyn dim ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod un o’r amodau a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys.
(5) Yr amodau a grybwyllir yn y paragraff hwn yw—
(a) y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi cydymffurfio â gofynion—
(i) Cod Derbyniadau Ysgol, neu
(ii) Rhan 3 o Ddeddf 1998;
(b) y byddai’r plentyn wedi cael cynnig lle petai trefniadau derbyn yr ysgol wedi eu gweithredu’n gywir; neu
(c) nid oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol wedi ei wneud o dan amgylchiadau’r achos.
(6) Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan drefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(d), wrth ystyried apêl rhaid i banel apêl roi sylw i’r canlynol—
(a) y rhesymau dros benderfyniad yr awdurdod lleol y dylai’r plentyn dan sylw gael ei dderbyn; a
(b) unrhyw resymau a gyflwynir gan y corff llywodraethu ynghylch pam y byddai derbyn y plentyn yn amhriodol.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hoff ddewis” (“preference”) yw hoff ddewis a fynegir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 86(1) neu adran 86A(1), mewn perthynas â blwyddyn ysgol 2013-2014, a’r blynyddoedd ysgol dilynol.”
(4) Yn lle rheoliad 7 rhodder y canlynol—“
Talu lwfansau
7. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un neu ragor o baragraffau Atodlen 1.
(2) Caiff yr awdurdod lleol perthnasol dalu i aelod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) lwfansau ar gyfer—
(a) colled ariannol;
(b) teithio; ac
(c) cynhaliaeth.
(3) Mae’r lwfansau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) i fod ar y cyfraddau mwyaf diweddar a nodir ar gyfer taliadau i aelodau cynghorau cymuned a thref mewn adroddiad (“yr adroddiad”) gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a ddyroddir o dan Ran 8 o Fesur 2011 (aelodau: taliadau a phensiynau).
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adroddiad at ddyletswydd a gymeradwywyd i’w ddarllen fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at fod yn bresennol mewn cyfarfod o banel apêl.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Hydref 2013