
2013 Rhif 2493 (Cy. 242)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013
Gwnaed 27 Medi 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Hydref 2013
Yn dod i rym 31 Hydref 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, fel y’u darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Erthygl o’r offerynnau UE a bennir yn rheoliad 2(3), neu Atodiad i’r offerynnau hynny, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Erthygl neu’r Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy’n pennu gweithdrefnau ynghylch materion diogelwch bwyd, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
RHAN 1 Rhagarweiniol
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Hydref 2013.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” gan adran 5(1A) o’r Ddeddf;
 ystyr “Cyfarwyddeb 76/621” (“Directive 76/621”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 76/621/EEC sy’n ymwneud â phennu’r lefel uchaf o asid erwsig mewn olewau a brasterau a fwriedir fel y cyfryw ar gyfer eu bwyta gan bobl ac mewn deunyddiau bwyd sy’n cynnwys olewau neu frasterau a ychwanegwyd;
 ystyr “Cyfarwyddeb 80/891” (“Directive 80/891”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/891/EEC sy’n ymwneud â dull y Gymuned o benderfynu maint y cynnwys o asid erwsig mewn olewau a brasterau y bwriedir eu defnyddio fel y cyfryw ar gyfer eu bwyta gan bobl ac mewn deunyddiau bwyd sy’n cynnwys olewau neu frasterau a ychwanegwyd;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “Rheoliad 1881/2006” (“Regulation 1881/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy’n pennu lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd;
 ystyr “Rheoliad 629/2008” (“Regulation 629/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 629/2008 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy’n pennu lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd;
 ystyr “Rheoliad 124/2009” (“Regulation 124/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 124/2009 sy’n pennu lefelau uchaf ar gyfer presenoldeb cocsidiostatau neu histomonstatau mewn bwyd o ganlyniad i drosglwyddiad anochel y sylweddau hyn mewn bwydydd anifeiliaid nad ydynt yn darged;
 ystyr “Rheoliad 165/2010” (“Regulation 165/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 165/2010 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy’n pennu lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd o ran afflatocsinau;
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig, naill ai’n gyffredinol neu’n benodol, gan awdurdod bwyd, i weithredu mewn materion sy’n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg sy’n cyfateb iddo yng Nghyfarwyddeb 76/621, Cyfarwyddeb 80/891, Rheoliad 1881/2006 neu Reoliad 124/2009 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag y sydd i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau neu’r Cyfarwyddebau hynny.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl o Gyfarwyddeb 76/621, Cyfarwyddeb 80/891, Rheoliad 1881/2006, Rheoliad 124/2009, neu at Atodiad i’r Cyfarwyddebau neu’r Rheoliadau hynny, yn gyfeiriad at yr Erthygl neu’r Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at y Cyfarwyddebau neu’r Rheoliadau hynny yn unol â hynny.
(4) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf wedi eu neilltuo—
(a) gan orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, i awdurdod iechyd porthladd; neu
(b) gan orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936, i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig;
rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i’r graddau y mae’r cyfeiriad yn ymwneud â’r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y’u neilltuwyd iddo felly.
RHAN 2 Asid erwsig mewn bwyd
Cwmpas
3 

(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys i—
(a) olewau, brasterau a chymysgeddau o’r ddau, a fwriedir fel y cyfryw ar gyfer eu bwyta gan bobl;
(b) deunyddiau bwyd cyfansawdd a ddisgrifir, naill ai’n uniongyrchol neu drwy oblygiad, fel rhai a baratowyd yn arbennig ar gyfer babanod a phlant ifanc, ac yr ychwanegwyd atynt olewau, brasterau neu gymysgeddau o’r ddau; ac
(c) deunyddiau bwyd cyfansawdd ac eithrio rhai a ddisgrifir, naill ai’n uniongyrchol neu drwy oblygiad, fel rhai a baratowyd yn arbennig ar gyfer babanod a phlant ifanc, yr ychwanegwyd olewau, brasterau neu gymysgeddau o’r ddau atynt, ac y mae cyfanswm y braster a gynhwysir ynddynt yn fwy na 5%.
(2) Ym mharagraff (1) mae i’r ymadroddion “babanod” a “plant ifanc” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “infants” a “young children” yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC sy’n ymwneud â fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol, ac yn diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC.
Rheolaethau ar asid erwsig
4 

(1) Ni chaiff neb roi ar y farchnad, ar gyfer ei fwyta gan y defnyddiwr olaf, gynnyrch y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo a lefel yr asid erwsig ynddo yn uwch na 5%, a gyfrifir fel canran o lefel cyfanswm yr asidau brasterog yn y gydran braster.
(2) Rhaid penderfynu lefel yr asid erwsig mewn bwyd yn unol â’r dulliau sgrinio a dadansoddi a ragnodir yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 80/891 a’r Atodiad i’r Gyfarwyddeb honno.
(3) Mae unrhyw berson sy’n mynd yn groes i baragraff (1) yn euog o drosedd.
(4) Ym mharagraff (1) ystyr “defnyddiwr olaf” (“final consumer”) yw defnyddiwr eithaf deunydd bwyd, na fydd yn defnyddio’r bwyd yn rhan o unrhyw weithrediad neu weithgarwch busnes bwyd.
RHAN 3 Halogion mewn bwyd
Rheolaethau ar halogion mewn bwyd
5 

(1) Yn ddarostyngedig i’r trefniadau trosiannol a gynhwysir yn–
(a) Erthygl 11 o Reoliad 1881/2006;
(b) Erthygl 2 o Reoliad 629/2008; neu
(c) Erthygl 2 o Reoliad 165/2010,
mae person sy’n mynd yn groes i, neu sy’n methu â chydymffurfio ag, unrhyw un o’r darpariaethau UE a bennir ym mharagraff (2) yn euog o drosedd.
(2) Y darpariaethau UE yw—
(a) Erthygl 1(1) o Reoliad 1881/2006 (gwaharddiad ar roi ar y farchnad ddeunyddiau bwyd sy’n cynnwys halogion uwchlaw’r terfynau rhagnodedig a gynhwysir yn yr Atodiad), fel y’i darllenir ynghyd ag—
(i) Erthygl 1(2) (lefelau uchaf sy’n gymwys i’r rhan fwytadwy o fwyd oni bennir yn wahanol yn yr Atodiad),
(ii) Erthygl 2 (darpariaethau ynglŷn â chymhwyso lefelau uchaf i ddeunyddiau bwyd sydd wedi eu sychu, eu gwanedu neu’u prosesu, a deunyddiau bwyd cyfansawdd),
(iii) Erthygl 4 (darpariaethau penodol ar gyfer cnau daear, hadau olew eraill, cnau coed, ffrwythau wedi’u sychu, reis ac indrawn),
(iv) Erthygl 6 (darpariaethau penodol ar gyfer letys), a
(v) yr Atodiad (lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd);
(b) Erthygl 3 o Reoliad 1881/2006 (gwaharddiadau ar ddefnyddio, cymysgu a dadwenwyno);
(c) Erthygl 5 o Reoliad 1881/2006 (gofynion labelu penodol ar gyfer cnau daear, hadau olew eraill, cynhyrchion sy’n deillio ohonynt ac ydau); a
(d) Erthygl 1(1) o Reoliad 124/2009 (gwaharddiadau ar roi ar y farchnad neu gymysgu bwydydd sy’n cynnwys lefelau o cocsidiostatau a histomonstatau uwchlaw’r terfynau a ragnodir), fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 1(2).
RHAN 4 Gweinyddu a gorfodi
Cosbau
6 
Mae unrhyw un a geir yn euog o drosedd o dan reoliad 4(3) neu reoliad 5(1) yn atebol, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Gorfodi ac awdurdodau cymwys
7 

(1) Mae dyletswydd ar bob awdurdod bwyd, o fewn ei sir neu’i fwrdeistref sirol, i weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn, Rheoliad 1881/2006 a Rheoliad 124/2009.
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion—
(a) Erthygl 2(2) o Reoliad 1881/2006 (cyfiawnhau ffactorau crynodi neu wanedu gan weithredwyr busnesau bwyd); a
(b) Erthygl 1(1) o Reoliad 124/2009 (sy’n ymwneud â’r ddyletswydd o ymchwilio i’r rhesymau am yr halogi),
yw’r awdurdod sydd â’r ddyletswydd o weithredu a gorfodi o dan baragraff (1).
Cymhwyso amryw adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990
8 

(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i’w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir bwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(b) adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) gyda’r addasiad—
(i) bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 4(3) neu 5(1) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan adran 14 neu 15, a
(ii) yn is-adran (4), yr ystyrir bod y cyfeiriadau at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;
(d) adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(f) adran 33(2), gyda’r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o’r math a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (e);
(g) adran 35(1) (cosbi troseddau), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(1) fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (e);
(h) adran 35(2) a (3), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(2) fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (f);
(i) adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol);
(j) adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd); a
(k) adran 44 (diogelu swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae adran 9 o’r Ddeddf (archwilio ac ymafael mewn bwyd a amheuir) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai’n darllen fel a ganlyn—“
9. 

(1) An authorised officer of a food authority may at all reasonable times inspect any food intended for human consumption which has been placed on the market and subsections (2) to (7) below apply where, on such an inspection, it appears to the authorised officer that the placing on the market of any food fails to comply with any of the requirements specified in regulation 4(1) or 5(2) of the Contaminants in Food (Wales) Regulations 2013, (“the EU requirements”).
(2) The authorised officer may either —
(a) give notice to the person in charge of the food that, until the notice is withdrawn, the food or any specified portion of it —
(i) is not to be used for human consumption, and
(ii) either is not to be removed or is to be removed to a place at which there are facilities to carry out sampling in the manner required by law; or
(b) seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(3) Where the authorised officer exercises the power conferred by subsection (2)(a) above, that officer must, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, determine whether or not the food complies with the EU requirements and —
(a) if satisfied that it does comply, shall forthwith withdraw the notice;
(b) if not so satisfied, shall seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, the officer must inform the person in charge of the food of the intention to have it dealt with by a justice of the peace and —
(a) any person who in connection with any of the EU requirements might be liable to a prosecution in respect of the food shall, if that person attends before the justice of the peace by whom the food falls to be dealt with, be entitled to be heard and to call witnesses; and
(b) that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is proceeded against for an offence in connection with any of the EU requirements in relation to that food.
(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as the justice considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with under this section fails to comply with any of the EU requirements the justice must condemn the food and order —
(a) the food to be destroyed or to be so disposed of as to prevent it from being used for human consumption; and
(b) any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the food.
(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority must compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.
(7) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (6) above must be determined by arbitration.
(8) Any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under subsection (2)(a) above is guilty of an offence and liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale.”.
(3) Mae’r ymadroddion Cymraeg “swyddog awdurdodedig” ac “awdurdod bwyd” sy’n cyfateb, yn eu trefn, i’r ymadroddion Saesneg “authorised officer” a “food authority” a ddefnyddir yn adran 9 o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), yn dwyn, at y dibenion hynny, yr ystyron a ddygir gan yr ymadroddion hynny yn y Rheoliadau hyn.
Diwygiad canlyniadol
9 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 (darpariaethau nad yw’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddynt), yn lle’r cofnod sy’n ymwneud â Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010 rhodder y cofnodion canlynol yng ngholofnau 1 a 2 yn eu trefn—“
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013(i’r graddau y mae sampl yn un sydd i’w ddadansoddi yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy’n pennu’r lefelau uchaf ar gyfer rhai halogion mewn bwydydd)" O.S. 2013/----.”
Dirymiadau
10 
Dirymir y canlynol—
(a) Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 1966;
(b) Rheoliadau Asid Erwsig mewn Bwyd 1977;
(c) Rheoliadau Asid Erwsig mewn Bwyd (Diwygio) 1982; a
(d) Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Medi 2013