
2013 Rhif 2438 (Cy. 235)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 21 Medi 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Medi 2013
Yn dod i rym 22 Hydref 2013
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 22 Hydref 2013.
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007
2 

(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (swyddogaethau y caniateir iddynt fod (ond nad oes angen iddynt fod) yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod), ar ôl paragraff 24, mewnosoder—“
25. 
Swyddogaethau ynglŷn â chymeradwyaeth gan awdurdod lleol o dan adran 51 neu benderfyniad gan awdurdod lleol o dan adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
21 Medi 2013