
2013 Rhif 2274 (Cy. 220)
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2013
Gwnaed 5 Medi 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Medi 2013
Yn dod i rym 1 Hydref 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 26(1)(a) a (2) o Ddeddf Gofal Plant 2006 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2013.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2013.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “asesiad” (“assessment”) yw’r asesiad a gynhelir gan awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau hyn;
 ystyr “darparydd gofal plant” (“childcare provider”) yw unrhyw berson sy’n darparu gofal plant;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006;
 ystyr “hyd sesiwn” (“session length”) yw’r cyfnod hiraf o amser y bydd darparydd gofal plant yn gofalu am blentyn mewn diwrnod.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, y mathau o ofal plant yw—
(a) gwarchod plant;
(b) gofal dydd llawn;
(c) gofal sesiynol;
(d) gofal y tu allan i oriau ysgol; ac
(e) crèches.
Dyletswydd i lunio asesiadau
3 

(1) Rhaid i bob awdurdod lleol lunio asesiadau o ddigonolrwydd y gofal plant a ddarperir yn ei ardal.
(2) Rhaid cyhoeddi’r asesiad cyntaf a lunnir gan bob awdurdod lleol, yn unol â’r Rheoliadau hyn, erbyn 30 Ebrill 2014 a phob 3 blynedd wedi hynny.
(3) Wrth lunio asesiadau rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
Materion i’w cynnwys yn yr asesiad
4 

(1) Rhaid i asesiad yr awdurdod lleol gynnwys, ar gyfer ei ardal awdurdod lleol, mewn cysylltiad â phob math o ofal plant ac o ystyried gwahanol oedrannau’r plant, fanylion am—
(a) nifer y lleoedd sy’n ofynnol;
(b) nifer y lleoedd sydd ar gael;
(c) nifer y lleoedd sy’n ofynnol y caniateir i’r elfen gofal plant o gredyd treth gwaith neu’r elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol gael ei defnyddio ar eu cyfer;
(d) nifer y lleoedd sydd ar gael y gallai rhieni ddefnyddio’r elfen gofal plant o gredyd treth gwaith neu’r elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol ar eu cyfer;
(e) yr adegau pan fo’r gofal plant yn ofynnol;
(f) yr adegau pan fo’r gofal plant ar gael;
(g) ystod yr hydoedd sesiwn a gynigir gan ddarparwyr gofal plant;
(h) nifer y lleoedd sy’n ofynnol sy’n addas i blant ag anghenion addysgol arbennig neu y mae angen gofal arbenigol arnynt oherwydd anabledd;
(i) nifer y lleoedd sydd ar gael sy’n addas i blant ag anghenion addysgol arbennig neu y mae angen gofal arbenigol arnynt oherwydd anabledd;
(j) nifer y lleoedd sy’n ofynnol ar gyfer gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog;
(k) nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyfer gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog;
(l) nifer y lleoedd gwag a’r lleoedd sydd heb eu defnyddio; ac
(m) ystod y taliadau ar gyfer y gofal plant.
(2) Rhaid i’r asesiad gynnwys crynodeb o anghenion gofal plant nad ydynt yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod lleol gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â’r canlynol—
(a) y mathau o ofal plant sydd ar gael;
(b) oedran y plant y mae gofal plant ar gael iddynt;
(c) fforddiadwyedd gofal plant;
(d) adegau pan fo gofal plant ar gael;
(e) anghenion penodol plant anabl;
(f) argaeledd gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog; ac
(g) lleoliad y gofal plant.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “elfen costau gofal plant o gredyd cynhwysol” (“child care costs element of universal credit”) yw swm a gynhwysir mewn dyfarniad o gredyd cynhwysol o dan adran 12 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 ac a ragnodir yn Rheoliadau Credyd Cynhwysol 2013.
Ymgynghori
5 
Wrth lunio’r asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—
(a) plant;
(b) rhieni neu ofalwyr;
(c) darparwyr gofal plant;
(d) personau sy’n cynrychioli plant, rhieni neu ofalwyr a darparwyr gofal plant;
(e) personau a chanddynt fuddiant mewn gofal plant a phersonau sy’n cynrychioli’r rheini a chanddynt fuddiant mewn gofal plant;
(f) personau sy’n cynrychioli cyflogwyr a chyrff cyflogwyr lleol;
(g) cyflogwyr lleol;
(h) awdurdodau lleol cyfagos;
(i) ysgolion; a
(j) colegau addysg bellachsydd yn ardal yr awdurdod lleol sy’n briodol yn ei farn ef.
6 

(1) Wrth lunio’r asesiad, rhaid i’r awdurdod lleol—
(a) ymgynghori â’r Bwrdd Lleol ar gyfer Diogelu Plant; a
(b) hysbysu unrhyw swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith yn ardal yr awdurdod lleol a’u gwahodd i gyflwyno unrhyw sylwadau.
Crynodeb Drafft
7 
Cyn cyhoeddi crynodeb o’r asesiad a gynhelir o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r awdurdod lleol anfon drafft o’r crynodeb o’r asesiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi at y personau a restrir yn rheoliadau 5 a 6 er mwyn rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau ar y drafft.
8 
Rhaid i’r awdurdod lleol ddiwygio’r crynodeb drafft o’r asesiad yn y dull sy’n briodol yn ei farn ef wrth ymateb i unrhyw sylwadau a geir gan bersonau a restrir yn rheoliadau 5 a 6.
Cyhoeddi’r Asesiad
9 
Rhaid i’r awdurdod lleol gyhoeddi crynodeb o’r asesiad ar wefan yr awdurdod lleol.
10 
Rhaid i’r awdurdod lleol adneuo copïau o’r crynodeb o’r asesiad mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, lleoliadau gofal plant, ysgolion a mannau cyhoeddus eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
11 
Rhaid i’r crynodeb o’r asesiad gynnwys—
(a) yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 4(1) mewn cysylltiad ag ardal yr awdurdod lleol; a
(b) yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 4(2).
Dirymu
12 
Mae Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2008 wedi eu dirymu.
Jeff Cuthbert
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi un o Weinidogion Cymru
5 Medi 2013