
2013 Rhif 225 (Cy.30)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 5 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Chwefror 2013
Yn dod i rym 28 Chwefror 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 12(2), 22(1), 22(2)(a), 22(3) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac wedi iddynt ymgynghori â'r personau hynny oedd, yn eu barn hwy, yn briodol yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2013.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004;
 ystyr “y Rheoliadau Cofrestru” (“the Registration Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002.
Diwygio'r prif Reoliadau
3 

(1) Mae'r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), mewnosoder yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor—“
 ystyr “cymhwyster gofynnol” (“required qualification”) yw cymhwyster sy'n gynwysedig mewn rhestr a gynhelir gan Weinidogion Cymru at ddiben y Rheoliadau hyn;”.
(3) Yn rheoliad 8(3)(c) (ffitrwydd y darparydd cofrestredig), ar ôl “person” mewnosoder “ond dim ond os yw'r person hwnnw yn rheoli neu'n bwriadu rheoli'r asiantaeth y bydd y dogfennau a grybwyllir ym mharagraffau 6A a 6B o Atodlen 2 yn ofynnol”.
(4) Yn rheoliad 9 (penodi rheolwr)—
(a) ar ddiwedd paragraff (5), ar ôl y geiriau “Atodlen 2” mewnosoder “ac nad yw'r wybodaeth a grybwyllir ym mharagraffau 6A a 6B o Atodlen 2 yn ofynnol”.
(b) ar ôl paragraff (5), mewnosoder—“
(6) Os yw'r darparydd cofrestredig yn bwriadu rheoli'r asiantaeth, rhaid i'r unigolyn hwnnw—
(a) cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn rheoliad 10 (ffitrwydd y rheolwr); a
(b) hysbysu swyddfa briodol Gweinidogion Cymru ar unwaith am y dyddiad y bydd rheolaeth o'r fath yn dechrau.”
(5) Yn rheoliad 10 (ffitrwydd y rheolwr)—
(a) ar ddechrau paragraff (2)(c) mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (7),”;
(b) ar ôl paragraff (2), mewnosoder y canlynol—“
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae cyfeiriad at gymwysterau, medrau a phrofiad yn cynnwys gofyniad bod yn rhaid i'r person feddu ar gymhwyster gofynnol.
(4) Pan fo person, nad yw yn dal cymhwyster gofynnol, wedi cael ei benodi yn rheolwr ar asiantaeth cyn 28 Chwefror 2013 nid yw'r person hwnnw yn ffit i reoli asiantaeth oni bai ei fod yn cael cymhwyster gofynnol heb fod yn hwyrach na—
(a) 31 Rhagfyr 2013; neu
(b) unrhyw ddyddiad hwyrach y bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno sydd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
(5) Nid yw unrhyw beth ym mharagraffau (3) neu (4) yn effeithio ar unrhyw ofyniad i reolwr feddu ar gymwysterau neu fedrau eraill neu brofiad arall sy'n berthnasol i'r materion hynny a nodwyd ym mharagraff (2)(b).
(6) Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni fo wedi ei gofrestru fel rheolwr asiantaeth gyda Chyngor Gofal Cymru heb fod yn hwyrach na—
(a) 31 Rhagfyr 2013; neu
(b) unrhyw ddyddiad hwyrach y bydd Gweinidogion Cymru yn cytuno sydd yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cytuno ar estyniad amser o dan baragraffau (4)(b) neu (6)(b), mae'n rhaid bod yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 6A a 6B o Atodlen 2 ar gael yn unol â thelerau'r cytundeb hwnnw.”
(6) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â darparwyr a rheolwyr cofrestredig asiantaeth a phersonau sydd wedi'u henwi i ddirprwyo ar gyfer person cofrestredig) ar ôl paragraff 6, mewnosoder—“
6A 
Tystiolaeth ddogfennol am gymhwyster gofynnol.
6B 
Tystiolaeth ddogfennol am gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru.”
Diwygio'r Rheoliadau Cofrestru
4 

(1) Mae'r Rheoliadau Cofrestru wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (yr wybodaeth sydd i'w darparu wrth wneud cais am gofrestriad fel person sy'n rhedeg sefydliad neu asiantaeth), yn Rhan 1 (gwybodaeth am y ceisydd)—
(a) ym mharagraff 1(ba), ar ôl “care home” mewnosoder “or the agency is a domiciliary care agency”;
(b) ym mharagraff 2(ca), ar ôl “care home” mewnosoder “or the agency is a domiciliary care agency”.
(3) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a dogfennau sydd i'w darparu wrth wneud cais am gofrestriad fel rheolwr sefydliad neu asiantaeth), yn Rhan 1 (gwybodaeth), ar ôl paragraff 2B, mewnosoder—“
2C 
Where the agency is a domiciliary care agency, details of the applicant’s registration with the Care Council for Wales.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 February 2013