
2013 Rhif 217 (Cy. 29)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2013
Gwnaed 4 Chwefror 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Chwefror 2013
Yn dod i rym 1 Mawrth 2013

Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.
Fel y mae’n ofynnol gan adran 39(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn a’r cyrff hynny o gyfrifwyr yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Mawrth 2013.
Diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005
2 

(1) Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7 (datganiad o gyfrifon) ym mharagraff (2)—
(a) yn lle is-baragraff (d) rhodder—“
(d) comisiynydd heddlu a throsedd;”;
(b) cyn is-baragraff (dd), mewnosoder—“
(da) prif gwnstabl a sefydlwyd o dan adran 2 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011;”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
4 Chwefror 2013