Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle'r OS sy'n dwyn yr un rhif ac fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2013 Rhif 2090 (Cy. 205) (C. 87)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2013
Gwnaed 22 Awst 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cychwyn
2 
Daw adrannau 22 i 25 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 i rym ar 22 Awst 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
22 Awst 2013